Neidio i'r cynnwys

Daniel Owen

Oddi ar Wicipedia
Daniel Owen
Ganwyd20 Hydref 1836 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1895 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEnoc Huws, Rhys Lewis Edit this on Wikidata

Nofelydd o Gymru oedd Daniel Owen (20 Hydref 183622 Hydref 1895).[1] Roedd yn un o lenorion mwyaf blaengar a dylanwadol y 19g yn yr iaith Gymraeg a gofir fel un o arloeswyr mawr y nofel yn Gymraeg.[2]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Bywyd Cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Owen yn yr Wyddgrug yn fab i'r glöwr Robert Owen. Bu farw ei dad a'i ddau frawd, James a Robert, ar 12 Mai 1838 mewn damwain pan fu llifogydd ym mhwll glo Argoed, gan adael Owen, ei fam, a thri o frodyr a chwiorydd eraill i ddibynnu ar elusen y plwyf am eu cynhaliaeth. Ni dderbyniodd lawer o addysg ffurfiol, ond cydnabu Owen ei ddyled i'r addysg a dderbyniodd yn yr Ysgol Sul.

Siop y Teiliwr

[golygu | golygu cod]
Plac i goffáu Daniel Owen ar Swyddfa Y Pentan, Yr Wyddgrug, fu gynt yn siop Angel Jones ac, yn ddiweddarach, Daniel Owen ei hun.

Ni fu Owen, yn ei eiriau ei hun, erioed yn gryf ei iechyd,[3] ac felly yn 12 oed, yn hytrach na mynd i weithio dan y ddaear fel y gwnaethai ei frodyr, daeth Owen yn brentis i deiliwr, Angel Jones. Roedd Jones yn un o flaenoriaid ac arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug. Wedi iddo gwblhau ei brentisiaeth parhaodd Owen i weithio fel teiliwr yn yr un siop.

Disgrifiodd Owen y brentisiaeth fel math o goleg, a dechreuodd ysgrifennu cerddi wedi iddo gael ei ddylanwadu gan un o'i gydweithwyr.[4] Rhoddai'r gwaith ddigon o gyfle iddo i drafod a dadlau gyda'i gyd-weithwyr a'r cwsmeriaid; ymhlith pynciau'r trafodaethau hyn roedd amrywiaeth o faterion gwleidyddol a diwinyddol, a darllenwyd ar lafar o destunau amrywiol mewn Cymraeg a Saesneg gan gynnwys nofelau'r awduron Saesneg George Eliot a Walter Scott.[4][5] Roedd Owen ac aelodau eraill o'i gylch yn barddoni hefyd, ac ymysg gweithiau llenyddol cynharaf yr awdur y mae amryw o gerddi a ysgrifennwyd yn ystod ei gyfnod yn brentis i Angel Jones. Defnyddiodd y ffugenw 'Glaslwyn' wrth gyhoeddi cerddi yn y cylchgronau. Tesun y gerdd gyntaf iddo ei gyhoeddi yw Mynwent yr Wyddgrug, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1856 pan oedd Owen yn 20 oed.[6] Daliodd i gyhoeddi ambell gerdd dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys pryddest, Offrymiad Isaac, a luniwyd rywbryd rhwng 1856-66.[7]

Bethesda, yr Wyddgrug, capel Daniel Owen.

Yn 1859 dechreuwyd cyhoeddi gwaith ysgrifenedig maith cyntaf Owen, sef cyfieithiad o Ten Nights in a Bar-Room and What I Saw There, nofel ddirwestol Saesneg gan yr Americanwr Timothy Shay Arthur. Cymreigiodd Owen y testun a'r ddeialog dan y teitl Deng Noswaith yn y Black Lion, ond ni chwblhaodd y cyfieithiad wedi anghytundeb gyda'r cyhoeddwr.[8]

Coleg y Bala lle astudiodd Daniel Owen yn yr 1860au.

Fel llawer o wŷr ifanc galluog ei gyfnod anogwyd Owen i fynd yn bregethwr, a bu'n hyfforddi am gyfnod o 1865-7 yng Ngholeg y Bala, sef Coleg hyfforddi'r Methodistiaid. Ni chwblhaodd ei astudiaethau fodd bynnag oherwydd priodas ei frawd Dafydd, a'i orfododd i adael y coleg er mwyn dychwelyd i'r gwiath i gynnal ei chwiorydd a'i fam.[2] Roedd yn falch, fodd bynnag, o gael dychwelyd i'r Wyddgrug ac ailafael yn ei waith yn siop Angel Jones, lle bu'n gweithio fel teiliwr tan ddiwedd ei oes, yn gyntaf fel gweithiwr ond yn y man yn gyd-berchennog ei fusnes ei hun.

Troi at Ysgrifennu

[golygu | golygu cod]
Roger Edwards, nofelydd a Gweinidog Bethesda; roedd yn ddylanwad cynnar pwysig ar Daniel Owen.

Er nad oedd bellach yn bwriadu bod yn weinidog, parhaodd Owen i bregethu tan 1876, pan gorfodwyd iddo rhoi'r gorau i deithio oherwydd ei iechyd bregus.[9] Gweinidog Capel Bethesda lle'r oedd Owen yn aelod oedd y Parchedig Roger Edwards, oedd yntau'n nofelydd ac yn olygydd ar Y Drysorfa; ef a ysgogodd Owen i ddechrau ysgrifennu gan nad oedd bellach yn medru pregethu.[10] Y canlyniad oedd dau gyfres a ymddangosodd yn Y Drysorfa yn 1878 sef Cymeriadau Beiblaidd a Cymeriadau Methodistaidd; cyfunwyd y ddau a'u cyhoeddi fel llyfr yn 1879 dan y teitl Offrymau Neilltuaeth. Casgliad o ddehongliadau beiblaidd oedd y gyfres gyntaf ond roedd Cymeriadau Methodistaidd yn stori o bum pennod y gellir ei ystyried yn nofel fer neu'n stori fer hir, sy'n dilyn proses ethol blaenoriaid mewn capel. Ail-gyhoeddwyd y gyfres eto yn Y Siswrn (1886).

O ganlyniad i boblogrwydd y gweithiau cynnar hyn, hysbysebodd Roger Edwards y byddai nofel o eiddo Owen yn ymddangos fesul bennod yn Y Drysorfa. Ymddengys nad ymgynghorodd Edwards ag Owen ei hun cyn gwneud y cyhoeddiad hwn,[11] a bu rhaid i Owen felly fynd ati i lunio'r nofel Y Dreflan er nad oedd wedi bwriadu gwneud hynny, ac heb unrhyw gynllun na syniad am beth fyddai'r nofel. Seiliodd y nofel ar yr Wyddgrug, er nad yw'r dref yn cael ei enwi yn y stori ei hun, sy'n dilyn nifer o is-blotiau a chymeriadau amrywiol. Ymddangosodd y nofel o 1879-81. Beirniedir y nofel hon heddiw am ddiffyg strwythur na chynllun,[12][13][14] fodd bynnag roedd yn boblogaidd iawn ymysg darllenwyr Y Drysorfa, digon felly i'w chyhoeddi ar ffurf cyfrol yn 1881, peth cymharol anarferol ar gyfer nofel Cymraeg yn y cyfnod.

Y Nofelydd Enwog

[golygu | golygu cod]

Yn sicr roedd y Dreflan yn ddigon poblogaidd i Edwards berswadio Owen i ddechrau ail nofel ar unwaith. Byddai'r nofel newydd hon yn llawer mwy uchelgeisiol. Rhys Lewis oedd ei henw, ac er bod Owen eisoes yn llenor boblogaidd, cyhoeddi'r nofel newydd hon a'i sefydlodd fel ffigwr o bwys ac enwogrwydd cenedlaethol.[15] Hunangofiant pregethwr ffuglennol yw'r nofel, yn seiliedig ar gofiannau pregethwyr go iawn oedd yn ddeunydd darllen poblogaidd iawn yn y cyfnod hwnnw.

Defnyddiodd Owen yr elw a ddaeth iddo o werthu hawliau cyhoeddi Rhys Lewis i Hughes a'i Fab i godi ty newydd (Cae'r Ffynnon) ger man ei eni yn Maes y Dref, Yr Wyddgrug ar gyfer ei fam; yn anffodus bu iddi farw cyn cael symud yno.

Dilynwyd Rhys Lewis gan ddwy nofel eto, Enoc Huws a Gwen Tomos a chyfres o straeon byrion sef Straeon y Pentan.

Roedd yn ddeifiol ei wawd o'r tueddiadau a welai mewn Anghydffurfiaeth yng Nghymru i fod yn ymbarchuso yn ystod ei gyfnod ef.

Gwaddol

[golygu | golygu cod]

Daniel Owen oedd nofelydd mwyaf poblogaidd a mwyaf dylanwadol yr 19g yn yr Iaith Gymraeg; ysytyrir ef yn arloeswr ym maes y nofel Gymraeg

Ers 1979 rhoddir Gwobr Goffa Daniel Owen bob blwyddyn yn Yr Eisteddfod Genedlaethol i nofel heb ei chyhoeddi. Hon bellach yw un o wobrwyau mawr yr Eisteddfod, ac mae'r wobr ariannol sy'n gysylltedig â hi yn fwy nag eiddo'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith.

Erbyn heddiw ystyrir mai diddordeb pennaf gweithiau rhyddiaith cynharaf Owen, sef Cymeriadau Methodistaidd ac Y Dreflan, yw fel rhagflas ar yr hyn oedd i ddod,[12][16] er y credai Saunders Lewis y dylid gosod Cymeriadau Methodistaidd gyda gwaith gorau'r nofelydd.[17]

Ychydig o sylw gafodd barddoniaeth Owen erioed; bardd "cyffredin" oedd Owen ym marn Robert Rhys;[18][19] er bod ei gerddi ambell dro yn troedio tir gwahanol iawn i'w nofelau, er enghraifft Y Troseddwr, sy'n disgrifio carchor yn disgwyl ei ddienyddio.[18] Bu'r gerdd Ymson Bore Nadolig 1894 yn boblogaidd ar un adeg fel darn adrodd.[19]

Addaswyd gweithiau Owen ar gyfer y llwyfan yn ystod y 19g. Rhwng 2002 a 2006, darlledodd S4C y gyfres Treflan, yn seiliedig ar lyfrau Daniel Owen, gan ddilyn hanesion Rhys Lewis ac Enoc Huws' yn bennaf.

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Isaac Foulkes, Daniel Owen y Nofelydd (Lerpwl, 1903)
  • T. Gwynn Jones, Daniel Owen, 1836-1895 (Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)
  • Saunders Lewis, Daniel Owen (Gwasg Aberystwyth, 1936)
  • John Gwilym Jones, Daniel Owen: Astudiaeth (Dinbych: Gwasg Gee, 1970)
  • T. Ceiriog Williams, Yr Hen Ddaniel (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1975)
  • John Gwilym Jones, Nofelydd yr Wyddgrug (Yr Wyddgrug : Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1976)
  • Derec Llwyd Morgan, Daniel Owen a Methodistiaeth (Yr Wyddgrug: Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1977)
  • Hywel Teifi Edwards, Daniel Owen a'r "Gwir" (Yr Wyddgrug: Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1978)
  • E. G. Millward, Tylwyth Llenyddol Daniel Owen (Yr Wyddgrug: Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1979)
  • R. Geraint Gruffydd, Daniel Owen a Phregethu (Yr Wyddgrug: Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1980)
  • Daniel Owen: Detholiad o Ysgrifau, cyf.2, gol. Urien Wiliam (Llandybie: Christopher Davies, 1983)
  • Marion Eames, Merched y Nofelau (Yr Wyddgrug: Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1984)
  • J. E. Caerwyn Williams, "Daniel Owen, datblygiad cynnar y nofelydd", Llên Cymru 15 (1984/1986), tt.133-158
  • R. K. Matthias a T. Ceiriog Williams, Daniel Owen a'i Fyd (Penarlâg: Archifdy Clwyd, 1991)
  • Glyn Tegai Hughes, Daniel Owen a Natur y Nofel (Yr Wyddgrug: Pwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen, 1991)
  • Derec Llwyd Morgan, "Daniel Owen a'r Beibl", yn Rhai Agweddau ar y Beibl a Llenyddiaeth Gymraeg (Llandysul: Gomer, 1998), tt.214–246
  • Robert Rhys, Daniel Owen, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Foulkes, Isaac (1903). Daniel Owen: Y Nofelydd. Isaac Foulkes.
  • Rhys, Robert (2000). Daniel Owen (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Millward, E. G. (1991). Cenedl o Bobl Ddewrion: Agweddau ar Lenyddiaeth Oes Victoria. Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Lewis, Saunders (1936). Daniel Owen. Gwasg Gee.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "DEATHOFMRDANIELIOWENI - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1895-10-25. Cyrchwyd 2015-07-16.
  2. 2.0 2.1 "Owen, Daniel 1836-1895". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Foulkes, t. 3.
  4. 4.0 4.1 Foulkes, t. 4-5.
  5. Rhys, t. 13-22.
  6. Owen, Daniel (2024) Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth, Melin Bapur, t.124
  7. Owen, Daniel (2024) Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth, Melin Bapur, t.157
  8. Rhys, t. 22.
  9. Gruffydd, R. Geraint (2019). James, E. Wyn (gol.). Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth. Bangor: Gwasg Bryntirion. ISBN 978-1-85049-267-2.
  10. Rhys, t. 145.
  11. Foulkes, t. 6-7.
  12. 12.0 12.1 John Rowlands (1992) Ysgrifau ar y Nofel, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.32
  13. Rhys, t. 85.
  14. Lewis, t. 5.
  15. Rhys, t. 130.
  16. Rhys, t. 80.
  17. Lewis, t. 60-61.
  18. 18.0 18.1 Owen, Daniel (2024) Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth, Melin Bapur, t.7-15
  19. 19.0 19.1 Rhys, t. 195.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]