Neidio i'r cynnwys

Straeon y Pentan

Oddi ar Wicipedia
Straeon y Pentan
Enghraifft o:gwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurDaniel Owen Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1895 Edit this on Wikidata
Prif bwnccasgliad o storïau byrion Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cyfrol o straeon byrion gan Daniel Owen yw Straeon y Pentan. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn 1895, ychydig fisoedd cyn marwolaeth yr awdur. Roedd 9 o'r 19 stori wedi ymddangos yn fisol yn Cymru'r Plant rhwng Gorffennaf 1894 ac Ebrill 1895. Yn ei ragair "At y Darllenydd" mae Daniel Owen yn pwysleisio mai straeon gwir yw'r rhain, a'i fod yn defnyddio'r cymeriad "F'ewyrth Edward" i'w hadrodd "er mwyn ysgafnhau yr arddull a'u gwneud yn fwy darllenadwy i bawb". Mae'n sicr i Daniel Owen ddefnyddio straeon a glywsai ar lafar gwlad yn yr Wyddgrug a'r ardaloedd cyfagos, ac yn wir iddo fynychu tafarnau'r Wyddgrug i chwilio amdanynt. Mewn sgwrs gyda T. Ceiriog Williams cofiai un o drigolion Maes-y-dre sôn am hyn, "Old Daniel's been yonder again after his tales."[1]

Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg yn 2011, ac argraffiad newydd o'r straeon gwreiddiol gan Melin Bapur yn 2024.

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Delweddau

[golygu | golygu cod]

Mae rhai o'r storïau yn cynnwys delwedd print bloc pren i'w darlunio

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Archifdy Sir y Fflint, Penarlâg D/DM/521/32 (tâp sain). Dyfynnir yn Dawn Dweud: Daniel Owen, t.192