Rhys Lewis
![]() Clawr yr argraffiad diweddaraf o Rhys Lewis | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Daniel Owen |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1885 ![]() |
Genre | Nofel |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Nofel gan Daniel Owen yw Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1885, ac yn ddiweddar mae wedi ei haddasu ar gyfer y teledu.
Cynllun
[golygu | golygu cod]Ysgrifennir y nofel hon yn y person cyntaf, yn croniclo hunangofiant Rhys ers ei ddyddiau cyntaf. Mae bywyd yn galed i Rhys, ac mae llu o brofedigaethau yn taro'i deulu a'i gymuned. Trwythir Rhys yn drwyadl mewn Methodistiaeth gan ei fam, a chyda chymorth ambell gyfaill fe ddaw yn weinidog Bethel.
Cymeriad hoffus arall yw Wil Bryan, ychydig yn hŷn na Rhys, a'i gyfaill pennaf. Lle mae Rhys yn ymdrechu i ymddwyn yn gywir, mae Wil yn llawn direidi, ond rhywsut fe welwn fod Wil, erbyn diwedd y llyfr, wedi llwyddo mewn bywyd.
Mae ochr dywyll i'r nofel, a dydy pechod a drygioni perthnasau eraill yn y cysgodion byth yn bell i ffwrdd. Mae iselder ysbryd a phruddglwyf yn treiddio drwy'r hanes.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Abel Huws, patrwm o flaenor traddodiadol, cadarn a di-lol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rhys Lewis (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1885)
- Ailgyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yng 'Nghyfres Clasuron Hughes', Hydref 2002