Brethyn Cartref
![]() Clawr blaen yr argraffiad gwreiddiol | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | T. Gwynn Jones |
Cyhoeddwr | Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1913 ![]() |
Genre | Straeon byrion |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
Cyfrol o straeon byrion gan T. Gwynn Jones yw Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig. Cyhoeddwyd y gyfrol yng Nghaernarfon, gan Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig yn Swyddfa Cymru, yn 1913.
Straeon digon cartrefol ydynt ar y golwg cyntaf, wedi'u hadrodd mewn iaith naturiol, ond ceir ynddynt gryn dipyn o smaldod ac eironi yn ogystal. Cyfrol i ddiddanu ydoedd, ac mae'r awdur yn ei thaflu i'r cyhoedd, fel petai, fel rhywbeth digon cyffredin a allai fod o fudd neu ddiddordeb i rywun, efallai.
Mae rhagair T. Gwynn yn ffug-ddiymhongar:
- Feallai nad oes nemor gamp ar y torri a'r gwnïo, ond am y brethyn, y mae hwnnw cystal â dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto, canys nid myfi a'i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, pe bae'r grefft cystal â'r deunydd, fe dalai'r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo'i amgenach wrth law, ryw ran o'r pedwar amser.[1]
Ceir ynddi bymtheg stori fer, rhai ononynt yn fwy tebyg i frasluniau na straeon, i gyd bron wedi'u lleoli mewn pentrefi bach neu gefn gwlad. Maent yn cynnwys "Mab y Môr", "Ysmaldod y Sais Mawr", "Y Bardd", "Ci Dafydd Tomos" a "Ffrae Lecsiwn Llangrymbo". Erys rhai ohonynt yn eithaf darllenadwy heddiw.
Y Straeon
[golygu | golygu cod]I. Twrc
II. Yr Hen Gartref
III. Sam
IV. Ynghwsg ai yn Effro?
V. Mab y Môr
VI. Un Bregeth Gruffydd Jones
VII. Ysmaldod y Sais Mawr
VIII. Darn o Fywyd
IX. Y Bardd
X. Ci Dafydd Tomos
XI. Catrin Lei Bach Fawr
XII. Cariad Dico Bach
XIII. Araith Dafydd Morgan
XIV. Elin eisiau Fôt
XV. Ffrae Lecsiwn Llangrymbo
![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brethyn Cartref (1913), rhagair.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig (Faded Page)