Macbeth (drama)
| Enghraifft o: | gwaith dramatig |
|---|---|
| Awdur | William Shakespeare |
| Iaith | Saesneg Modern Cynnar, Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1623 |
| Dechrau/Sefydlu | 1606 |
| Genre | trasiedi |
| Cymeriadau | King Duncan, Macbeth, Lady Macbeth, Banquo, Macduff, Lady Macduff, Macduff's son, Siward, Earl of Northumbria, Young Siward, Fleance, Three Witches, Malcolm, Donalbain, Ross, Lennox, Angus, Menteith, Caithness, Seyton, Hecate, Captain, Murderer Ι, Murderer ΙΙ, Murderer ΙΙΙ, Porter, Doctor Ι, Doctor ΙI, Gentlewoman |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04rt6 |


Un o ddramâu mwyaf adnabyddus y dramodydd William Shakespeare yw Tragodia Macbeth neu Macbeth (Saesneg: The Tragedy of Macbeth, neu Macbeth (/məkˈbɛθ/)), ac amcangyfrifir ei bod wedi'i llwyfannu gyntaf ym 1606 a'i chyhoeddi am y tro cyntaf ym 1623.[1] Cyhoeddwyd 2 gyfieithiad / trosiad Cymraeg o'r ddrama - trosiad mydryddol gan Thomas Gwynn Jones [Tragodia Macbeth] ym 1942, ac addasiad Cymraeg gan Gwyn Thomas [Macbeth] yn 2017.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Cymeriadau
Shakespeare |
Cyfieithiad
T. Gwynn Jones |
Cyfieithiad
Gwyn Thomas |
Disgrifiad |
|---|---|---|---|
| Duncan | Duncan | Duncan | Brenin Yr Alban |
| Malcolm | Malcolm | Malcolm | mab hynaf Duncan |
| Donalbain | Donalbain | Donalbain | mab 'fenga Duncan |
| Macbeth | Macbeth | Macbeth | cadfridog ym myddin y Brenin Duncan; yn wreiddiol Arglwydd Glamis, yna Arglwydd Cawdor, ac yn ddiweddarach brenin yr Alban |
| Lady Macbeth | Arglwyddes Macbeth | Yr Arglwyddes Macbeth | gwraig Macbeth, ac yn ddiweddarach, brenhines Yr Alban |
| Banquo | Banquo | Banquo | cyfaill Macbeth's a chadfridog ym myddin Duncan |
| Fleance | Ffleawns | Fleance | mab Banquo |
| Macduff | Macduff | Macduff | Arglwydd o Fife |
| Lady Macduff | Arglwydes Macduff | Yr Arglwyddes Macduff | gwraig Macduff |
| Macduff's son | Bachgen, mab Macduff | Mab Macduff | llanc ifanc |
|
|
|
Arglwyddi o'r Alban |
| Siward | Siward | Siward | Arglwydd Northumberland, cadfridog lluoedd Lloegr |
| Young Siward | Siward ifanc | Siward Ifanc | mab Siward |
| Seyton | Seyton | Seyton | prif was Macbeth |
| Hecate | Hecaté | Hecate | brenhines y gwrachod |
| Three Witches | Dewinesau | Tair Gwrach | tair merch ddirgel sy'n rhagweld tynged Macbeth |
| Captain | Rhingyll | Capten | ym myddin Yr Alban |
| Murderers | Llofruddion | Llofruddion | wedi'i talu gan Macbeth |
| Porter | Porthor | Porthor | ceidwad y porth yng nghartref Macbeth |
| Doctor | Meddyg | Meddyg o Sgotyn | meddyg yr Arglwyddes Macbeth |
| Doctor | Meddyg | Meddyg o Sais | yn Llys Lloegr |
| Gentlewoman | Cymdeithes Arglwyddes Macbeth | Gwreigdda | gwreigdda Yr Arglwyddes Macbeth |
| Lord | - | - | yn erbyn Macbeth |
| First Apparition | Drychiolaethau | Drychiolaethau | pen milwrol |
| Second Apparition | Drychiolaethau | Drychiolaethau | plentyn gwaedlyd |
| Third Apparition | Drychiolaethau | Drychiolaethau | plentyn wedi'i goroni |
| Attendants, Messengers, Servants, Soldiers | Gweinidogion
Hen ŵr |
Negesydd,
Hen ŵr |
Cymeriadau eraill |
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Yn y ddrama, mae cadfridog dewr o’r enw Macbeth o'r Alban yn derbyn proffwydoliaeth gan driawd o wrachod y caiff ei ddyrchafu un diwrnod, yn Frenin yr Alban. Wedi’i gyffroi gan uchelgais a’i hudo at drais gan ei wraig, mae Macbeth yn llofruddio’r brenin presennol ac yn cipio gorsedd yr Alban iddo’i hun. Yna, wedi’i boeni gan euogrwydd a pharanoia, mae’n cyflawni llofruddiaethau treisgar pellach i amddiffyn ei hun rhag gelyniaeth ac amheuaeth, gan ddod yn reolwr gormesol ar ei deyrnas. Mae’r holl dywallt gwaed yn arwain at wallgofrwydd ac yn y pen draw, at farwolaeth Macbeth a'i wraig.
Defnyddiodd Shakespeare hanes Macbeth, brenin yr Alban o waith gan Raphael Holinshed (1587), er nad yw'r digwyddiadau yn y ddrama yn cyfateb i'r hyn a wyddir am y Macbeth hanesyddol.[1]
Mae rhai'n credu bod y ddrama wedi'i melltithio ac nid yw'n weddus nac yn ddoeth i yngan ei theitl gefn llwyfan, nac mewn unrhyw theatr, gan gyfeirio at y ddrama fel "Y Ddrama Honno" neu "Albanaidd" / "The Scottish Play". Mae'r ddrama wedi denu rhai o enwau mawr y byd actio actio i bortreadu Macbeth a'i Arglwyddes, ac mae hi wedi'i haddasu i ffilm, teledu, opera, nofelau, comics, a chyfryngau eraill.
Yn ôl T. Gwynn Jones, yn ei Ragair i'w gyhoeddiad o Tragodia Macbeth ym 1942, "seiliwyd y ddrama ar ddigwyddiadau yn hanes yr Alban yn yr unfed ganrif ar ddeg, pan oedd Duncan yn frenin. Mewn helynt rhwng Duncan a phendefigion ei deyrnas, lladdwyd y brenin, naill ai gan Macbeth ei hun neu drwy ei orchymyn, yn 1039, ar anogaeth ei wraig, medd rhai. Daeth Macbeth i'r orsedd, a bu'n teyrnasu am bymtheng mlynedd. Pan dyfodd meibion Duncan i oed, gwrthryfelasant yn ei erbyn gyda chymorth eu hewythr, Siward, Iarll Northumberland. Lladdwyd Macbeth mewn brwydr, a chyhoeddwyd Malcolm, mab hynaf Duncan, yn frenin yn 1056."[2]
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Act 1
[golygu | golygu cod]Mewn storm o fellt a tharanau, mae tair gwrach yn cwrdd gan benderfynu mai Macbeth, Thane (Arglwydd) Glamis fydd y gwrthrych nesaf, i'w drafod ganddynt. Mae milwyr yn adrodd wrth y Brenin Duncan o'r Alban, fod ei gadfridogion Banquo a Macbeth newydd drechu gwrthryfel dan arweiniad Arglwydd Cawdor, mewn cynghreiriau â lluoedd o Norwy ac Iwerddon. Mae Duncan yn canmol ei frodyr am eu dewrder a'u gallu i ymladd, gan gyhoeddi y bydd teitl Arglwydd Cawdor yn cael ei drosglwyddo i Macbeth.
Wrth grwydro ar rostir, caiff Macbeth a Banquo eu drysu o'u cyfarch â chanmoliaeth gan y gwrachod, tra'n annerch Macbeth yn broffwydol fel "Arglwydd Glamis" ac "Arglwydd Cawdor", ac yn olaf "Henffych, Macbeth, a fyddi / Wedi hyn - yn Frenin!".[3] Pan hola Banquo am ei ffawd ei hun, mae'r gwrachod yn proffwydo y bydd yn dad i linach o frenhinoedd, er na fydd ef ei hun yn un. Mae'r gwrachod yn diflannu, ac mae'r Argwlydd Ross yn cyrraedd, gan hysbysu Macbeth am ei deitl newydd, a roed iddo gan y brenin, "Arglwydd Cawdor". Felly mae proffwydoliaeth gyntaf y gwrachod yn cael ei chyflawni, ac mae Macbeth yn dechrau meithrin uchelgeisiau o fod yn frenin. Mae'r Brenin Duncan ei hun yn croesawu ac yn canmol Macbeth a Banquo, gan ddatgan y byddant i gyd yn treulio'r noson yng nghastell Macbeth yn Inverness; hefyd, cyhoeddwyd mai mab Duncan, Malcolm, fydd ei etifedd swyddogol. Mae Macbeth yn anfon llythyr ymlaen at ei wraig, yn sôn am broffwydoliaeth y gwrachod, ac mae hithau'n benderfynol y dylai hi a'i gŵr lofruddio Duncan er mwyn ennill y goron. Pan gyrhaedda Macbeth Inverness, mae hi'n ei berswadio i ladd y brenin y noson honno. Maen nhw'n bwriadu meddwi dau was Duncan, sy'n gwarchod ei ystafell, fel y gallant feio'r gweision am y llofruddiaeth.
Act 2
[golygu | golygu cod]Y noson honno, er gwaethaf ei amheuon a nifer o arwyddion goruwchnaturiol, gan gynnwys rhithweledigaeth o ddagr [cleddyf bychan] wedi'i orchuddio â gwaed, mae Macbeth yn trywanu Duncan, a'i ladd, tra'n cysgu. Gwneir y weithred oddi-ar y llwyfan. Wrth ddychwelyd, mae wedi'i ddychryn cymaint nes bod yr Arglwyddes Macbeth yn ei ganfod yn cludo'r dagerau gwaedlyd, oddi wrth y corff. Mae hi'n ei geryddu, a'i atgoffa bod yn rhaid eu gadael wrth y gweision sy'n cysgu. Mae hi'n cymryd y dagerau, ac yn eu rhoi yn ôl yn ystafell Duncan. Pan glyw'r cwpl gnocio ar giât y castell, maen nhw'n brysio i'r gwely.
Mae porthor meddw yn agor y giât, gan adael Macduff (Arglwydd Fife) a Lennox i mewn: maen nhw'n dymuno ymweld â'r brenin. Mae Macbeth yn eu cyfarch ac yn eu harwain i ystafell Duncan. Mae Macduff yn mynd i mewn i'r siambr ac yna'n dychwelyd i'r llwyfan, gan gyhoeddi llofruddiaeth Duncan. Mae Macbeth a Lennox yn rhuthro i'r siambr lle, oddi ar y llwyfan, mae Macbeth yn lladd gweision Duncan i'w hatal rhag cyffesu eu diniweidrwydd. Mae'n ailymddangos ac yn cyfaddef i'r uchelwyr ei fod wedi lladd y gweision, fel dial am lofruddiaeth y brenin. Mae dau fab Duncan yn ffoi o'r wlad, gan ofni y byddant yn cael eu lladd nesaf. Mae Macduff yn egluro bod eu ffo yn eu gwneud yn brif ddrwgdybiedig ym marwolaeth y brenin, ac mae Macbeth, fel perthynas agosaf Duncan, yn cymryd yr orsedd, fel Brenin newydd yr Alban. Mae Banquo yn cofio proffwydoliaeth y gwrachod am sut y byddai ei ddisgynyddion ei hun yn etifeddu'r orsedd, ac mae'n amau y gallai Macbeth fod yn wir lofrudd Duncan.
Act 3
[golygu | golygu cod]Er gwaethaf llwyddiant Macbeth, mae'n parhau i fod yn anesmwyth ynglŷn â rôl Banquo yn y broffwydoliaeth. Gan wahodd Banquo i wledd frenhinol, mae Macbeth yn clywed y bydd Banquo a'i fab ifanc Fleance yn marchogaeth y noson honno. Mae Macbeth yn trefnu'n gyflym i ladd Banquo a Fleance, gan gyflogi dynion i gyflawni'r weitrhed. Yn ystod yr ymosodiad, mae'r llofruddion yn llwyddo i ladd Banquo, ond mae Fleance yn dianc. Mae Macbeth yn gandryll bod etifedd Banquo yn dal yn fyw.
Yn y wledd, mae Macbeth wedi gwahodd ei arglwyddi a'r Arglwyddes Macbeth i noson o yfed a llawenydd, er bod Macduff wedi gwrthod dod. Daw ysbryd Banquo i mewn ac eistedd yn sedd Macbeth. Mae Macbeth yn canu'n ofnus, gan ddychryn ei westeion, gan mai dim ond ef sy'n gallu gweld yr ysbryd. Mae'r lleill yn bryderus wrth weld Macbeth yn cynddeiriogi â'r gadair wag, nes bod yr Arglwyddes Macbeth anobeithiol yn ceisio eu darbwyllo "Mae f'arglwydd fel hyn yn fynych, a wedi bod / O'i ienctid. Da chi, arhoswch yn eich seddau. / Dros dro mae'r ffit yn para; mewn dau chwinc / Fe fydd o'n holliach eto."[3] Mae'r ysbryd yn gadael ac yn dychwelyd unwaith eto, gan achosi'r un dicter ac ofn afreolus ym Macbeth. Y tro hwn, mae'r Arglwyddes Macbeth yn mynnu bod yr ymwelwyr yn gadael.
Yng "nghynefin y Gwrachod: 'Ffos Acheron'" mae Hecate, brenhines y ddewiniaeth [gwrachod], yn ceryddu'r tair gwrach am gyfathrebu â Macbeth heb ymgynghori â hi. Mae Hecate yn cyfarwyddo'r gwrachod i roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch a gorhyder i Macbeth ynglŷn â'i swydd newydd. Trwy eironi geiriol, mae Lennox yn datgelu i arglwydd arall ei amheuon bod Macbeth yn deyrn llofruddiol ac maent yn trafod sut mae Macduff, gan wrthod mynychu gwledd Macbeth, wedi mynd i Loegr i ddod o hyd i gynghreiriaid a fydd yn helpu i adennill gorsedd yr Alban.
Act 4
[golygu | golygu cod]Mae Macbeth yn ymweld â'r tair gwrach ac yn gofyn iddynt ddatgelu gwirionedd eu proffwydoliaethau iddo. Maent yn galw ysbrydion erchyll, pob un ohonynt yn cynnig datganiadau goruwchnaturiol pellach. Yn gyntaf, maent yn creu "pen arfog", sy'n dweud wrtho am fod yn ofalus o Macduff. Yn ail, mae "plentyn gwaedlyd" yn dweud wrtho na fydd unrhyw un a aned o fenyw yn gallu ei niweidio. Yn drydydd, mae "plentyn coronog" sy'n dal coeden yn datgan y bydd Macbeth yn ddiogel nes bydd "Coed Birnam Fawr" yn dod at "lechwedd Dunsinane". Mae Macbeth yn teimlo rhyddhad oherwydd ei fod yn gwybod bod ei holl elynion wedi'u geni o fenywod ac na all coedwig deithio ar draws y tir. Fodd bynnag, mae'r gwrachod hefyd yn creu gorymdaith o wyth brenin coronog, yr olaf yn cario drych sy'n adlewyrchu hyd yn oed mwy o frenhinoedd, ac yn olaf ysbryd Banquo yn pwyntio at yr orymdaith. Mae Macbeth yn sylweddoli'n nerfus mai'r rhain i gyd yw disgynyddion Banquo a fydd yn caffael brenhiniaethau mewn nifer o wledydd.
Yng ngoleuni'r proffwydoliaethau diweddaraf, mae Macbeth yn gorchymyn i gastell yr anufudd Macduff gael ei gipio ac yn anfon llofruddion i ladd ei holl drigolion, gan gynnwys gwraig a mab ifanc Macduff. Yn y cyfamser, mae Macduff ei hun yn Lloegr yn cyfarfod â'r Tywysog Malcolm (yr hynaf o feibion y Brenin Duncan) i drafod cyfundrefn ormesol Macbeth. Mae Malcolm, sy'n gorfod bod yn ofalus am unrhyw faglau, yn cyfaddef y byddai'n arweinydd ofnadwy pe bai'r goron yn cael ei rhoi iddo, ond dim ond celwydd yw hyn i weld sut y bydd Macduff yn ymateb. Mae Macduff yn dangos ei fod yn fwy ffyddlon i'r Alban nag unrhyw arweinydd penodol, gan greu argraff ar Malcolm, sydd bellach yn datgelu'r celwydd ac yn dweud bod Macduff wedi ennill ei ymddiriedaeth. Mae Arglwydd Ross yn cyrraedd i gyflwyno'r newyddion erchyll fod ei "gastell wedi ei gipio, / Dy wraig di a dy rai bach di wedi eu / Cigyddio'n giaidd."[3] Gyda'r newyddion hwn am lofruddiaethau ei deulu, mae Macduff yn cael ei daro gan alar, ond mae Malcolm yn ei ysgogi'n gyflym i ddial, sy'n egluro ei fod wedi codi byddin gyda chymorth Brenin Lloegr Edward. Gyda'i gilydd, gallant drechu Macbeth a chipio gorsedd yr Alban yn ôl.
Act 5
[golygu | golygu cod]Ym mhalas brenhinol Dunsinane fin nos, mae meddyg a gwreigdda yn trafod arferiad brawychus Yr Arglwyddes Macbeth o gerdded yn ei chwsg. Daw'r Arglwyddes yno mewn dieithrwch, gan gwyno am y llofruddiaethau diweddar a cheisio golchi staeniau gwaed dychmygol oddi ar ei dwylo. Mae ei gwylwyr yn rhyfeddu at ei chyffesion llawn euogrwydd. Yn y cyfamser, mae lluoedd cynghreiriaid y Tywysog Malcolm yn cwrdd ger Coed Birnam Fawr, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Macduff ac Arglwyddi gwrthgiliedig Yr Alban, sydd wedi'u dychryn gan weithredoedd Macbeth. Tra'n gwersylla yng Nghoed Birnam Fawr, mae Malcolm yn gorchymyn i'w filwyr dorri i lawr a chario canghennau coed i guddliwio eu niferoedd.
Wrth i Macbeth baratoi ar gyfer yr ymosodiad, mae'n derbyn newyddion bod ei wraig wedi marw'n sydyn, gan achosi iddo draddodi ymson anobeithiol :
"Yfory, ac yfory, ac yfory
Sy'n ymlusgo ar y cyflymdra pitw hwn
O ddydd i ddydd, hyd sillaf olaf
Amser cofnodedig; ac y mae ein doeau
Ni bob un wedi g'leuo'r ffordd
I ffyliad hyd at angau llychlyd.
Diffodd, diffodd gannwyll fechan!
Nid ydi'n bywyd ni ond cysgod
Sydd yn cerdded, actor truan
Sy'n torsythu a gofidio ei orig
Ar y llwyfan, na chlywir dim amdano wedyn.
Chwedl ydi-hi a adroddir gan ynfytyn,
Yn llawn o sŵn, yn llawn rhyferthwy;
Yn golygu dim."[3]
Eto i gyd, mae'n cael ei galonogi gan warant ymddangosiadol y gwrachod o'i anorchfygiad - "'Wnaiff neb o wraig a anwyd, na, ddim un, / Dy niweidio di, Macbeth",[3] nes bod gwas yn adrodd bod byddin Malcolm yn symud ymlaen ar Dunsinane ar ffurf coed yn symud. Wrth i'r goresgynwyr gipio ei gastell, mae Macbeth yn cael ei wynebu gan Macduff. Mae Macbeth yn dweud wrtho na all "dyn sydd wedi / Ei eni o wraig" ei drechu, ond mae Macduff yn datgelu ei fod wedi'i eni trwy doriad Cesaraidd ac felly na chafodd enedigaeth naturiol. Yn yr ornest ddilynol gyda Macduff, mae Macbeth yn cael ei ladd. Daw Macduff i'w llwyfan yn cludo pen Macbeth wedi'i dorri, ac mae Malcolm yn trafod sut mae trefn wedi'i hadfer. Mae'n awgrymu mai hunanladdiad oedd marwolaeth yr Arglwyddes Macbeth, ac yn datgan ei fwriadau caredig dros y wlad, yn dyrchafu ei Arglwyddi yn ierll, ac yn gwahodd pawb i'w weld yn cael ei goroni yn Scone.
Addasiadau Cymraeg
[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd Tragodia Macbeth gan T. Gwynn Jones ar ôl llwyfannu'r ddrama yn Abertawe ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938. Roedd T. Gwynn Jones eisoes wedi cyhoeddi "cyfieithiad meistraidd" o Faust, Goethe ym 1922.[2] Ar glawr y cyhoeddiad cyntaf o Tragodia Macbeth ym 1942, noda'r cyhoeddwyr [Foyles o Lundain] ei bod hi'n "fraint [c]ael cyflwyno'r gwaith hwn i werin Cymru". Aent ymlaen i nodi "Y mae cyhoeddi cyfieithiadau o gampweithiau gwledydd estron yn rhan o'n dyletswydd, ac yn gymorth i gymharu safonau ein llenyddiaeth ac i eangu gorwelion llenyddol ein gwlad. [...] Medrodd yr Athro ddwyn at y gwaith hwn feistrolaeth lwyr ar gyfoeth ein hiaith, ac astudiaeth oes o glasuron y byd."[2] Nodwyd hefyd bod "Yr Athro" wedi cychwyn ar y cyfieithiad "yn gynnar yn ei fywyd, ond ni chwblhawyd y gwaith tan rhyw chwe' mlynedd yn ôl [1936]"[2]
Yn ei gyflwyniad "Gair gan y Cyfieithydd", noda T. Gwynn Jones bod y trosiad wedi ymddangos gyntaf "o wythnos i wythnos ym Mhapur Pawb (Caernarfon) yn 1902". Ail-argraffwyd y trosiad ym misolyn Syr Owen Edwards, Cymru ym 1916, a bwriadwyd ei chyhoeddi fel llyfryn, ond "amcan a luddiwyd gan y rhyfel oedd i roi pen ar ryfel".[2] Ni bu sôn amdani wedyn am dros 20 mlynedd. Noda'r Athro bod awgrym wedi codi y gellid ei llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Machynlleth 1937, gyda Sybil Thorndike "yn barod i gymryd rhan Arglwyddes Macbeth". Ond "oherwydd diffyg adeilad cymwys at y pwrpas", ni allwyd trefnu hynny.[2] Bwriedwyd eu chyhoeddi wedi'r llwyfanniad ym 1938, "ond daeth rhyfel arall a bu'n rhaid gohirio".[2]
Yn ôl gweddw Gwyn Thomas yn 2017, bu ef hefyd yn gweithio ar ei gyfieithiad o Macbeth "am gryn amser", ac mae’n cofio iddo gael sgwrs gydag Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau yn 2015.[4] Nid dyma’r cyfieithiad cyntaf gan Gwyn Thomas o waith Shakespeare. Cyhoeddwyd Y Dymestl ym 1996 a Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan yn 2000, ac addasodd nifer o ddramâu Shakespeare ar gyfer ffilmiau animeiddiedig i S4C sef y gyfres Shakespeare - Y Dramâu wedi'i Hanimeiddio.
Nododd Arwel Gruffydd yn ei Ragair i'r cyhoeddiad mai'r elfen oruwchnaturiol "yr ymwneud â gwrachod, yr ocwlt, a rhyw hen fyd paganaidd" oedd yr elfennau "mwyaf diddorol" yn y ddrama, ac y soniodd Gwyn "yn frwd amdani yn ein cyfarfod".[3] Cyffelybodd Arwel hefyd weithredoedd a meddylfryd Macbeth i "wladweinwyr cyffelyb yn yr oes hon" [21ain ganrif] "sy'n gwbl argyhoeddedig eu bod yn 'gwneud y peth iawn' - er nad ydynt, hyd y gwyddom, wedi eu swyno gan wrachod - gan ymddangos yn ddi-ildio, yn ddidrugaredd, ac yn greulon ar adegau, ac mae i'w gweithredoedd ganlyniadau pellgyrhaeddol - enbyd hyd yn oed".[3]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Ceir yr unig adroddiad llygad-dyst o lwyfannu Macbeth yn oes Shakespeare gan Simon Forman, a welodd berfformiad yn y Globe ar 20 Ebrill 1610.[5] Mae ysgolheigion wedi nodi anghysondebau rhwng adroddiad Forman a'r ddrama fel y mae'n ymddangos yn y Folio Cyntaf. Mae rhai yn credu bod testun y Folio yn addasiad o'r ddrama wreiddiol. Mae hyn wedi arwain at y ddamcaniaeth bod y ddrama yn y Folio yn addasiad ar gyfer perfformiad dan do yn Theatr y Blackfriars (oedd yn cael ei redeg gan y King's Men o 1608).
1930au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd trosiad T. Gwynn Jones, Tragodia Macbeth gyntaf yn Llanelli, 11-14 Ebrill 1938 gan gwmni o'r cylch, dan hyfforddiant Meriel Williams o'r Chwaraedy Cenedlaethol Cymru, Llangollen, ac eilwaith wedi hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938 gan Gwmni'r Eisteddfod dan hyfforddiant Haydn Davies.[6]
| Cymeriadau
T. Gwynn Jones |
Cwmni Abertawe 1938 | Cwmni Caerdydd 1938 |
|---|---|---|
| Duncan | O. Williams | W. J. Griffiths |
| Malcolm | E. Bonnell | Islwyn Thomas |
| Donalbain | Arfon Griffiths | Dennis Jones |
| Macbeth | Maldwyn Lee | Jack James |
| Arglwyddes Macbeth | Meriel Williams | Dilys Davies |
| Banquo | Howard Davies | Isaac Davies |
| Ffleawns | Bryn Bonnell | D. Jones |
| Macduff | Glyn Phillips | R. T. Williams |
| Arglwyddes Macduff | Edwina Morgan | Nona Richards |
| Bachgen, mab Macduff | Donald Francis | (dim manylion) |
|
|
|
| Siward | Bryn Bonnell | T. Lewis |
| Siward ifanc | Hugh Barnay | D. Jones |
| Seyton | Arwyn Roberts | Hugh Evans |
| Hecaté | Mrs Agnes Anthony | (dim manylion) |
| Dewinesau |
|
|
| Rhingyll | Emrys Marks | D. Moses Jones |
| Llofruddion |
|
|
| Porthor | W. H. Williams | Peter Edwards |
| Meddyg | W. H. Williams | Treharne Davies |
| Cymdeithes Arglwyddes Macbeth | M. Every | M. M. Jenkins |
| Milwyr |
|
(dim manylion) |
| Drychiolaethau | Mrs O. Richards | (dim manylion) |
| Drychiolaethau | Mrs B. Bonnell | (dim manylion) |
| Drychiolaethau | Ruth Powell | (dim manylion) |
| Drychiolaethau | Irene Jenkins | (dim manylion) |
| Drychiolaethau | Ena Edwards | (dim manylion) |
| Gweinidogion
Hen ŵr |
|
Hugh Evans |
| Cennad | (dim manylion) | D. R. James |
| Gwas Macbeth | (dim manylion) | D. R. James |
2010au
[golygu | golygu cod]
Llwyfannwyd y ddrama yn Gymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghastell Caerffili yn 2017, o dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd; cynllunydd Ruth Hall; goleuo Joe Fletcher; sain Dyfan Jones; cyfarwyddydd cynorthwyol Aled Pedrick: cast
| Cymeriad | Cast |
|---|---|
| Duncan | Llion Williams |
| Malcolm | Tomos Wyn |
| Donalbain | Siôn Eifion |
| Macbeth | Richard Lynch |
| Yr Arglwyddes Macbeth | Ffion Dafis |
| Banquo | Gareth John Bale |
| Macduff | Owain Gwynn |
| Yr Arglwyddes Macduff | Gwenllian Higginson |
| Ross, Lennox, Angus, Menteith, | Martin Thomas, Aled Pugh, Phylip Harries, Gareth John Bale |
| Siward | Phylip Harries |
| Siward Ifanc | Siôn Eifion |
| Tair Gwrach | Ffion Dafis, Siôn Eifion, Gwenllian Higginson |
| Capten | Owain Gwynn |
| Llofruddion | Siôn Eifion, Phylip Harries, Llion Williams, Tomos Wyn |
| Porthor | Phylip Harries, |
| Meddyg | Llion Williams |
| Gwreigdda | Gwenllian Higginson |
| Negesydd,
Hen ŵr |
Llion Williams |
Roedd y cynhyrchiad yn deyrnged i'r Athro Gwyn Thomas, a fu farw cyn gweld ei gyfieithiad "newydd" o'r ddrama.[3]
Nododd gohebydd y Daily Post, Eryl Crump - "Mae seddi, wedi'u hadeiladu'n arbennig, yn caniatáu i'r gynulleidfa weld cynhyrchiad agos atoch mewn tair ystafell wahanol iawn yn yr adeilad [castell]. Mae cynllun gwych Ruth Hall ynghyd â goleuadau Joe Fletcher a dyluniad cerddoriaeth Dyfan Jones yn creu profiad theatrig eithriadol iawn."[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Bloom, Harold, ed. (2008). Macbeth. Bloom's Shakespeare Through the Ages. New York: Chelsea House. ISBN 978-0-7910-9842-4.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Jones, T. Gwynn (1942). Tragodia Macbeth. Foyles.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 Thomas, Gwyn (2017). Macbeth. Cyhoeddiadau Barddas.
- ↑ "Macbeth - William Shakespeare (Cyfieithiad gan Gwyn Thomas) | Cyhoeddiadau Barddas". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cyrchwyd 2025-10-22.
- ↑ Brooke, Nicholas, ed. (2008). Macbeth. The Oxford Shakespeare. Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-953583-5.
- ↑ Jones, T. Gwynn (1942). Tragodia Macbeth Shakespeare. Gwasg Gymraeg Foyle, Llundain.
- ↑ Crump, Eryl (2017-02-11). "Review: Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru, Caerphilly". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-15.