Caniadau (T. Gwynn Jones)
![]() | |
Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | T. Gwynn Jones |
Cyhoeddwr | Hughes |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1934 ![]() |
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780852841112 |
Tudalennau | 201 ![]() |
Genre | Barddoniaeth |
Cyfres | Cyfres Clasuron Hughes |
Lleoliad y gwaith | Cymru ![]() |
Cyfrol o gerddi gan T. Gwynn Jones yw Caniadau. Hughes a'i Fab a gyhoeddodd y gyfrol yn 1934; cafwyd argraffiad newydd yn 1993. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Mae'r gyfrol wreiddiol yn y parth cyhoeddus gan ei fod wedi ei gyhoeddi gan awdur a fu farw dros 70 mlynedd yn ôl. Mae copi o'r gyfrol wreiddiol ar gael ar Wicidestun[2]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Cyfrol a gyhoeddwyd ym 1934 sy'n cynnwys rhai o gerddi enwocaf T. Gwynn Jones.
Yn argraffiad newydd 1993 ceir nodiadau gan y bardd a rhagymadrodd gan Derec Llwyd Morgan.
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae nifer o'r cerddi yn ail gyhoeddiadau o gerddi a chyhoeddwyd gynt gan y fardd wedi eu cywiro yn ôl rheolau iaith newydd y cyfnod a rheolau cywirach o'r gynghanedd a ddarganfyddwyd trwy ymchwiliad addysgiadol y cyfnod, sydd i weld mewn cyfrolau megis Cerdd Dafod ac Orgraff yr Iaith Gymraeg, John Morris Jones, Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu Timothy Lewis a gweithiau academaidd eraill y 1920au a'r 1930au.
Er enghraifft dyma ddarn o Ymadawiad Arthur 1903 o'r Gyfrol Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill [3]
"Dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
Ddelo i'w phuraidd awel; a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon—
Ynys Afallon, honno sy felly!
A fersiwn Caniadau[4]
"Draw dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
A ddêl i'w phur, rydd awel, a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon,
Ynys Afallon ei hun sy felly.
Mae'r gyfrol yn cynnwys ei adolygiad o "Gwlad y Bryniau" cerdd gadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1909[5] a'i gerddi poblogaidd Penmon[6]
Onid hoff yw cofio'n taith
Mewn hoen i Benmon, unwaith?
Odidog ddiwrnod ydoedd,
Rhyw Sul uwch na'r Suliau oedd
I ni daeth hedd o'r daith hon,
Praw o ran pererinion.
ac Ynys Enlli[7]
Pe cawn i egwyl ryw brynhawn,
Mi awn ar draws y genlli,
A throi fy nghefn ar wegi'r byd,
A'm bryd ar Ynys Enlli.
A'r gerdd drama "Tir na n-Og"[8] a gyflwynodd yr enw "Nia" i'r iaith Gymraeg (er fod Nia yn bodoli eisioes yn y Saesneg fel talfyriad o'r enw "Lafinia") ac a fu'n ysbrydoliaeth ar gyfer y Sioe Gerdd unigryw Gymraeg gyntaf "Nia Ben Aur!