Morfa Conwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Morfa Conwy o'r Penmaen-bach

Mae Morfa Conwy yn drwyn isel o dir, a fu ar un adeg yn gorsdir tywodlyd yn bennaf, i'r gorllewin o dref Conwy.

Yn gefn i Morfa Conwy yn y de mae bryniau Mynydd Caer Seion (neu Mynydd y Dref), a goronir gan fryngaer Caer Seion, a chlogwynni serth Penmaen-bach. Rhwng y bryniau hyn a'r morfa ei hun ceir yr A55 heddiw; cyn hynny rhedai'r hen lôn bost wrth droed y bryniau i gysylltu Penmaenmawr â Conwy. Pan drowyd yr hen A55 yn ffordd ddeuol yn y 1980au cloddwyd twnel dan Afon Conwy sy'n dechrau ar ymyl y Morfa.

Mae gogledd y Morfa yn gorwedd ar lan orllewinol aber Afon Conwy. Ar ei ochr orllewinol lle cwrdd â'r môr ceir traeth o dywod brad; pan fo'r llanw allan mae'r traeth yn eang iawn ac yn cynnwys banciau cregyn gleision enwog Bae Conwy. Mae'r traeth yn boblogaidd gan bysgotwyr lleol yn ogystal ag ymwelwyr.

Mae'r Morfa wedi newid cryn dipyn er canol y 19g.

Yn 1869 mentrodd tri Albanwr ar eu gwyliau yng ngogledd Cymru osod allan ychydig o dyllau golff ar y Morfa. Honnir mai dyna oedd y tro cyntaf i golff gael ei chwarae yng Nghymru. Yn 1875 agorodd aelodau o glwb golff Hoylake (y Royal Liverpool Golf Club) gwrs 12 twll ac yn 1890 ffurfiwyd Clwb Golff Sir Gaernarfon ar y safle. Yn 1895 ymunodd y clwb ag Undeb Golff Cymru. Pan dyfodd i fod yn gwrs 18 twll chwareuwyd Pencampwriaeth Golff gyntaf Cymru yno.

Mae'n gartref i ddau faes carafan mawr ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. Mae stadau o dai wedi'u codi dros y blynyddoedd ar ymyl dde-ddwyreiniol y Morfa yn ogystal. Yn fwy diweddar codwyd ystâd diwydianol ysgafn Parc Diwydiannol Caer Seion ar ymyl yr A55 ar ddiwedd y 1990au. Mae'r Morfa yn gartref i Glwb Pêl-droed Conwy yn ogystal.

Yr Harbwrs Mulberry[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwelwyd angen am harbwr symudol a fyddai'n galluogi lluoedd y Cynghreiriaid i lanio ar arfordir gogledd-orllewin Ewrop. Dewiswyd Morfa conwy fel safle i adeiladu'r harbwrs hyn, a elwir Harbwrs Mulberry. Cafodd peirianydd o ogledd Cymru,Hugh Iorys Hughes, y dasg o brofi un o'r cynlluniau y buasai'n gweithio arno. Safle ger ail dwll y cwrs golff presennol oedd y prif leoliad ar gyfer y gwaith. Ar ôl iddynt gael eu lawnsio ar yr afon aethpwyd â'r harbwrs i dde Lloegr i baratoi ar gyfer glaniadau ''D-Day''.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]