Robert Stephenson

Oddi ar Wicipedia
Robert Stephenson
Ganwyd16 Hydref 1803 Edit this on Wikidata
Willington Quay Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1859 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd sifil, gwleidydd, peiriannydd rheilffyrdd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHigh Level Bridge, Pont Reilffordd Conwy Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadGeorge Stephenson Edit this on Wikidata
MamFrances Henderson Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Chevalier de la Légion d'Honneur, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
Cerflun o Stephenson yng ngorsaf Euston

Peiriannydd sifil o Sais oedd Robert Stephenson (16 Hydref 180312 Hydref 1859). Roedd yn fab i'r peiriannydd rheilffordd George Stephenson (17811848).

Ar ôl treulio cyfnod fel prentis i arolygydd gwaith glo yn Killingworth cafodd ei anfon i astudio ym Mhrifysgol Caeredin am chwe mis yn 1822. Yn 1823 cynorthwyodd ei dad i wneud arolwg o Reilffordd Stockton a Darlington. Treuliodd gyfnod o dair blynedd yng Ngholombia cyn dychwelyd i redeg ffatri injan reilffordd ei dad yn Newcastle.

Daeth yn adnabyddus am ei waith ar godi pontydd rheilffordd, gan gynnwys Pont Britannia ar Afon Menai (1850), Pont Reilffordd Conwy ar Afon Conwy (1848), y Royal Border Bridge yn Berwick a phont arall ym Montreal, Canada (1859).

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1847. Fe'i claddwyd yn Abaty Westminster, Llundain.