Neidio i'r cynnwys

Pont Britannia

Oddi ar Wicipedia
Pont Britannia
Mathpont bwa dec, pont ddeulawr, pont ddur, pont reilffordd, pont ffordd, pont diwb Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol5 Mawrth 1850 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaJohn Evans Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1850 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRheilffordd Arfordir Gogledd Cymru Edit this on Wikidata
SirPentir, Llanfair Pwllgwyngyll Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2163°N 4.1858°W Edit this on Wikidata
Hyd460 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pont sy'n croesi Afon Menai, gan gysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru yw Pont Britannia. Mae'n cludo’r rheilffordd a’r A55 dros yr afon. Ei henw cywir yw Pont Llanfair. Daw’r enw o bentref cyfagos Llanfairpwll, ond credir i'r bont gael ei cham-enwi yn "Bont Britannia" o gam-gyfieithiad o enw'r graig y saif colofn canol y bont arni - Carreg y Frydain. Mae gwraidd y gair "Frydain" yn dod o'r gair "brwd", ac yn enw disgrifiadol sy'n cyfeirio at natur wyllt y Fenai.

Adeiladu’r bont

[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y bont yn wreiddiol ar gyfer y rheilffordd yn unig, rhan o Reilffordd Caer-Caergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson ac fel Pont y Borth o’i blaen, adeiladwyd pont debyg, ond llai, gan yr un periannydd ar draws Afon Conwy tua'r un adeg.

Fel Pont Y Borth, roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatau mynediad i longau hwylio oddi tani. Strwythr y bont wreiddiol oedd tiwbiau o haearn, gyda dau brif ran o 460 troedfedd (140m) o hyd, ac yn pwyso 1,800 tunell. Gyda chysylltidau llai o 230 troeddfedd (70m) y naill ochr, roedd hyd y tiwb gyfan yn 1,511 troedfedd (461m). Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y reilffordd mewn naw awr o'i gymharu a rhyw 40 awr ar y goets fawr.

Adnabyddwyd y bont wreiddiol fel "Y Tiwb" yn ogystal â’r enw swyddogol.

Ar 23 Mai 1970 crwydrodd hogiau lleol, yn chwilio am ystlumod, i mewn i’r bont, a chan danio torch i weld eu ffordd, yn ddiarwybod iddynt, cynhaeon nhw dân yn y bont. Er mai metel oedd strwythr y tiwb, roedd wedi ei atgyfnerthu gan goed, a’r coed hynny wedi eu trwytho mewn pitsh, math o olew. Llosgodd yn ulw dros nos, a dwysedd y gwres yn ddigon i fwclo’r haearn nes bod y bont, i bob pwrpas, wedi ei difa’n llwyr.[1][2]

Oherwydd y difrod i’r rheilffordd, roedd yn rhaid ailagor y rheilffordd i Gaernarfon am gyfnod a sicrhau bod nwyddau oedd wedi eu danfon ar y trên ar gyfer y porthladd yn cael eu cludo i Gaergybi ar y ffordd. Aethpwyd ati i ail-adeiladu’r bont gan osod bwâu newydd o ddur i gynnal y strwthr. Ail-agorwyd y bont i’r rheilffordd, ond llinell sengl yn unig, ym 1972.

Cymerodd fwy o amser eto i adeiladu’r dec ychwanegol i gludo’r ffordd, uwch ben y rheilffordd. Agorwyd hwn yn 1980. Caniatawyd i'r cyhoedd gerdded ar draws y bont cyn ei hagor i drafnidiaeth.

Llewod tew

[golygu | golygu cod]
Un o'r llewod tew

Roedd dyluniad y bont wreiddiol yn cynnwys llewod sylweddol o galchfaen, a ddyluniwyd gan John Thomas y naill ochr i’r rheilffordd ar ochr Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Anfarwolwyd y rhain yn y pennill gan Y Bardd Cocos:

Pedwar llew tew
Heb ddim blew
Dau 'rochr yma
A dau 'rochr drew

Nid yw’r llewod i’w gweld o’r A55 er bod y syniad o’u codi at lefel y ffordd wedi ei wyntyllu o bryd i’w gilydd.

Y bont heddiw

[golygu | golygu cod]

Maer bont yn cludo’r A55, bellach y brif ffordd ar draws Gogledd Cymru. Gan mai ffordd ddeuol yw hi y gweddill o’r ffordd, ond ar y bont yn ffordd sengl, ar adegau mae pwysau traffig y naill ochr neu’r llall yn achosi rhesi o gerbydau yn disgwyl croesi. Mae gwleidyddion lleol yn galw am ehangu’r bont, un ai gan osod trydedd lôn lawr y canol, neu adeliadau cerbydlonydd newydd tu allan i’r lonydd presennol.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn pasio dan y bont ar hyd y traeth ar lan Afon Menai yn ymyl Pwll Ceris.

Yn Ionawr 2016, yn dilyn marwolaeth Lemmy y cerddor roc trwm a fagwyd ar Ynys Môn, fe lansiwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru newid enw'r Bont i "Pont Lemmy".[3]

Arddangosfeydd a chreiriau

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o luniau, cynlluniau a chreiriau o hanes y bont yn cael eu harddangos yn lleol, yn cynnwys –

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Charles Matthew Norrie, Bridging the Years: A Short History of British Civil Engineering (Llundain, 1956)
  • L.T.C. Rolt, George and Robert Stephenson: The Railway Revolution (Llundain, 1960), pennod 15

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]