Caer Arianrhod

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caer Arianrhod
Math ynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.06464°N 4.343001°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH431545 Edit this on Wikidata

Ynys fechan greigiog oddi ar arfordir Gwynedd, tua hanner y ffordd rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle ydy Caer Arianrhod, sydd tua 1 km o'r lan. Mae'r ynys hon yn ymddangos pan fydd y llanw'n mynd allan yn unig. Er i rai honni eu bod wedi gweld ffurfiant waliau ac ati yno, y gred gyffredinol yw bod y safle'n gwbl naturiol.

Cysylltir yr enw â chwedl Math fab Mathonwy, sef y bedwaredd gainc o'r Mabinogi. Yn y chwedl hon mae gan Arianrhod gaer ac mae'r dewin Gwydion fab Dôn yn ymweld â'r gaer mewn llong, gan ddwyn ei nai Lleu Llaw Gyffes, mab Arianrhod, i gyfarfod ei fam yno.

Mae "Caer Arianrhod" hefyd yn cael ei ddweud am y stribed gwyn o sêr a welir fin nos ar draws yr awyr, sef y Llwybr Llaethog.

Roedd gan y grŵp Bando (prif leisydd: Caryl Parry Jones) gân yn dwyn y teitl "Nos yng Nghaer Arianrhod" ar eu halbwm Shampŵ.