Bidog
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cold weapon ![]() |
Math | pole weapon ![]() |
Dyddiad darganfod | 17 g ![]() |
![]() |

Bidogau Americanaidd o'r Ail Ryfel Byd.
Cyllell neu gleddyf byr wedi ei ddylunio i'w osod ar flaen dryll, gan amlaf reiffl, yw bidog.[1]
Dyfeiswyd gyntaf yn Bayonne, Ffrainc, oddeutu 1670, a fe'i gelwid yn baïonnette gan y Ffrancod. Dechreuwyd eu defnyddio ym Mhrydain yn 1693. Yn y dechrau roedd ganddo goesyn pren i'w osod i mewn i faril y dryll. Yn 1688 dyfeisiwyd y bidog soced, sy'n galluogi'r milwr i saethu'r dryll heb ddatgysylltu'r bidog, a rhoddir yr enw bidog plwg ar yr hen fath o fidog.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ bidog. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2019.