Cyllell

Oddi ar Wicipedia
Rhannau nodweddiadol y cyllell: 1. Llafn 2. Carn 3. Blaen/Pig 4. Min/Awch 5. Hog 6. Cefn 7. Ffwler 8. Ricaso 9. Dyrnfol 10. Pen y carn 11. Cortyn/Llinyn

Erfyn gyda llafn a ddefnyddir i dorri, neu arf a ddefnyddir i drywanu, yw cyllell.

Yn y gegin, cyllyll yw'r dosbarth mwyaf o'r offer torri a elwir yn gytleri.[1]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair Cymraeg "cyllell" o'r gair Lladin cultellus. Y ffurf luosog arferol ar y gair yw "cyllyll", ond ceir hefyd "cyllaill" a "cylleill", ac yn hanesyddol "cyllellawr".[2] Yn anffurfiol gellir ysgrifennu'r gair yn "cylleth", a'r ffurf luosog yn "cyllyth".[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) knife (tool). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2014.
  2.  cyllell. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2014.
  3. Geiriadur yr Academi, [knife].
Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.