Trelogan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Trelogan yn bentref bychan yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n rhan o gymuned Llanasa. Mae'n gorwedd yn y bryniau isel tua hanner ffordd rhwng Trelawnyd i'r gorllewin a Mostyn i'r dwyrain. I'r gogledd ceir pentref Llanasa.

Mae gan y pentref boblogaeth o tua 200. Lleolir Ysgol Gynradd Trelogan yno. Hyd 2005 roedd gan y pentref ei swyddfa bost, ond mae wedi cau rwan. Ceir tafarn yn y pentref.

Tuag 1 filltir i'r de-ddwyrain o'r pentref ceir carreg hynafol Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar.


CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato