Gronant
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.339°N 3.365°W ![]() |
Cod OS | SJ091833 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Gronant[1][2] ( ynganiad ). Saif tua milltir o arfordir gogledd Cymru yng nghornel gogledd-orllewinol eithaf y sir, bron ar y ffin â Sir Ddinbych. Mae'n gorwedd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Gwesbyr a Talacre i'r dwyrain.
Tu ôl i'r pentref mae nant yn codi i'r Graig Fawr, y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae lôn dan bont ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn arwain o'r pentref i'r traeth a'r tywynnau sy'n ymestyn o Brestatyn i'r Parlwr Du.
Ar y traeth gerllaw Gronant, ceir yr unig fan lle mae'r Forwennol Fechan yn nythu yng Nghymru. Mae'r nythod yn cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Trefi
Bagillt ·
Bwcle ·
Caerwys ·
Cei Connah ·
Y Fflint ·
Queensferry ·
Saltney ·
Shotton ·
Treffynnon ·
Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·
Afon-wen ·
Babell ·
Bretton ·
Brychdyn ·
Brynffordd ·
Caergwrle ·
Carmel ·
Cefn-y-bedd ·
Cilcain ·
Coed-llai ·
Coed-talon ·
Cymau ·
Chwitffordd ·
Ewlo ·
Ffrith ·
Ffynnongroyw ·
Gorsedd ·
Gronant ·
Gwaenysgor ·
Gwernymynydd ·
Gwernaffield ·
Gwesbyr ·
Helygain ·
Higher Kinnerton ·
Yr Hôb ·
Licswm ·
Llanasa ·
Llaneurgain ·
Llanfynydd ·
Llannerch-y-môr ·
Maes-glas ·
Mancot ·
Mostyn ·
Mynydd Isa ·
Mynydd-y-Fflint ·
Nannerch ·
Nercwys ·
Neuadd Llaneurgain ·
Oakenholt ·
Pantasaph ·
Pant-y-mwyn ·
Penarlâg ·
Pentre Helygain ·
Pen-y-ffordd ·
Pontblyddyn ·
Pontybotgyn ·
Rhes-y-cae ·
Rhosesmor ·
Rhyd Talog ·
Rhyd-y-mwyn ·
Sandycroft ·
Sealand ·
Sychdyn ·
Talacre ·
Trelawnyd ·
Trelogan ·
Treuddyn ·
Ysgeifiog