Neidio i'r cynnwys

Gwaenysgor

Oddi ar Wicipedia
Gwaenysgor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3186°N 3.3897°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddClwyd
Etholaeth y DUBecky Gittins (Llafur)
Map

Pentref a plwyf eglwysig yng nghymuned Trelawnyd a Gwaenysgor, Sir y Fflint, Cymru, yw Gwaenysgor ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Gwaunysgor. Saif fymryn i'r de-ddwyrain o dref Prestatyn. Mae Llwybr Clawdd Offa yn mynd heibio iddo.

Gerllaw mae adfeilion RAF Gwaenysgor, adfeilion "St Elmo’s Summerhouse" a dau feddrod hynafol. [1][2] Roedd gan y pentref ysgol hyd at 1968. Erbyn nyn, mae'r adeiladad wedi dod yn Neuadd y Pentref.[3]

Eglwys y Santes Fair
Machlud o'r gulfan, Gwaenysgor

Cysegrwyd yr eglwys i Mair Fadlen. Crybwyllir y plwyf a'r eglwys yn Llyfr Dydd y Farn (1086) fel "Wenescol".[4] Credir bod y rhan fwyaf o'r adeilad presennol ychydig yn hwyrach. Roedd pentref neolithig ar y safle.[5]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gordon MacDonald, Barwn 1af MacDonald o Waenysgor (1888-1966), gwleidydd Llafur a Llywodraethwr Newfoundland

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gwefan themodernantiquarian.com
  2. ↑ Gwefan Coflein
  3. ↑ "Gwefan pentrefi Gwaenysgor a Threlawnyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-09. Cyrchwyd 2021-01-08.
  4. ↑ Gwaunysgor yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  5. ↑ Gwefan Genuki
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato