Edwyn Cynrig Roberts
Edwyn Cynrig Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1837 Cilcain |
Bu farw | 17 Medi 1893 o trawiad ar y galon Bethesda |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mwynwr, ymgyrchydd, glöwr, ffermwr, llenor |
Un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia oedd Edwyn Cynrig Roberts, weithiau Edwin Cynrig Roberts (1837 – 17 Medi 1893).
Roedd Edwyn Roberts yn enedigol o bentref Cilcain yn Sir Fflint, mab John a Mary Kendrick, ond ymfudodd gyda'i deulu i Wisconsin yn 1847. Tua 1856 dechreuodd Mudiad Gwladfaol yn yr Unol Daleithiau, lle roedd rhai o'r Cymry yn gweld bod eu cydwladwyr yn colli eu hiaith a'i diwylliant ac yn troi'n Americanwyr. Daeth Roberts yn amlwg yn y mudiad yma, a phan fethwyd trefnu i garfan o Gymry o America deithio i Batagonia, bwriadai ef ymfudo yno ar ei ben ei hun.
Fe'i perswadiwyd i deithio i Gymru i chwilio am eraill oedd yn barod i ymfudo i Batagonia, a daeth i gysylltiad a Michael D. Jones. Teithiodd trwy Gymru yn siarad ar y pwnc, a daeth yn rhan o gymdeithas a ffurfiwyd yn Lerpwl yn 1861 i drefnu'r fenter. Ym mis Mai 1865 gadawodd tua 160 o Gymry eu gwlad gan hwylio o Lerpwl i Borth Madryn, (heddiw Puerto Madryn) ym Mhatagonia ar long y Mimosa. Cyrhaeddon nhw Borth Madryn ar 28 Gorffennaf ac roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yno yn barod i'w cyfarfod.
Yn 1866, priododd Anne Jones, un o'r teithwyr ar y Mimosa. Yn ddiweddarach, bu ef a nifer o gymdeithion yn chwilio am aur yn yr Andes. Cawsant hyd i rywfaint, a daeth Edwyn Roberts ar ymweliad a Chymru i geisio codi arian i ffurfio cwmni i'w weithio. Bu farw o drawiad y galon ym Methesda ychydig ddyddiau cyn cychwyn yn ôl i Batagonia.
Edwyn Roberts yw arwr Yr Hirdaith (Gwasg Gomer, 1999) gan Elvey MacDonald, sy'n ddisgynnydd iddo.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Elvey MacDonald, Yr Hirdaith (Llandysul: Gwasg Gomer, 1999)