Ynys Seiriol

Oddi ar Wicipedia
Ynys Seiriol
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.317132°N 4.026603°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ynys gyferbyn â Phenmon oddi ar arfordir de-ddwyreiniol Ynys Môn yw Ynys Seiriol (hen enw: Ynys Lannog). Fe'i lleolir yng Llangoed. Dyma'r nawfed ynys fwyaf ar arfordir Cymru. Mae goleudy amlwg yn sefyll ar ddarn o graig yn y môr rhwng Ynys Seiriol a'r Trwyn Du, ac mae hwnnw yng ngofal Trinity House. Perchennog yr ynys, bellach, yw Ystad Bryn y Barwn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Enwir yr ynys ar ôl Sant Seiriol, a oedd yn byw yn y 6g, ac ar un adeg, yn ôl yr hanes, roedd clas (mynachlog) yno a sefydlwyd gan Seiriol ei hun. Mae olion capel bach gyda thŵr sgwâr ag iddo ben trionglog, sy'n dyddio o'r 12g, yn sefyll yng nghanol yr ynys; mae'n gysylltiedig â Priordy Penmon. Darganfuwyd yn ogystal olion tŷ gweddi (oratorium) sydd yn dyddio o'r 8g, efallai, ac yn debyg i rai o'r tai gweddi Celtaidd cynnar sydd yn Iwerddon, fel "Tŷ Sant Columba" yn Kells. Tybir hefyd bod olion rhai o'r celloedd meudwy gwreiddiol i'w gweld yno. Erbyn hyn nid oes neb yn byw ar yr ynys.

Yr enw a roddodd y Llychlynwyr ar yr ynys yw Priestholm, sef "Ynys yr Offeiriaid". Hen enw arall ar yr ynys yn ôl traddodiad yw Ynys Lannog, (hefyd "Ynys Lannawg" neu "Ynys Glannawg"), sy'n cyfeirio at yr arwr chwedlonol Helig ap Glannog a'r chwedl am ei lys a aeth dan ddŵr; mae'n bosbil fod yr enw hwn ar yr ynys yn gynharach na'r enwau eraill i gyd. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio at yr ynys yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188).

'Y mae hefyd wrth ystlys Môn, a bron yn un â hi, ynys fechan nad oes yn ei phreswylio ond meudwyaid yn byw ar lafur eu dwylo, ac yn gwasanaethu Duw. Testun rhyfeddod ynglŷn â hwy yw, pan gaffer hwynt weithiau, fel y digwydd ar dro, yn anghytûn â'i gilydd o achos nwydau dynol, ar unwaith, y mae llygod pitw bach, y mae'r ynys yn orlawn ohonynt, yn bwyta ac yn halogi eu holl fwydydd a'u diodydd. Ond pan beidio'r anghytundeb, yn ddiymdroi peidia'r molest yntau. // Ynys Lannog, hynny yw, yr Ynys Eglwysig, y gelwir yn Gymraeg yr ynys uchod: oherwydd y llu saint y mae eu cyrff yn gorwedd yno. Ac nid â benywod i mewn i'r ynys hon'.

Rhoddodd y tywysog Llywelyn Fawr roddion i "Brior a chanoniaid Ynys Glannawg" mewn dau siarter dyddiedig 1221 a 1237.

Goleudy Trwyn Du

Bywyd Gwyllt[golygu | golygu cod]

Mae llawer o adar ar yr ynys gan gynnwys y pâl. Ar un adeg roedd nifer fawr o balod yma, a rhoddwyd yr enw Saesneg "Puffin Island" ar yr ynys gan ymwelwyr ar ddiwedd y 19g. Lleihaodd y nifer o balod yn fawr oherwydd llygod mawr a gyrhaeddodd yr ynys fel canlyniad i longddrylliad. Yn ddiweddar bu cynllun dan arolygaeth Comisiwn Cefn Gwlad Cymru i ddifa'r llygod mawr ac mae nifer y palod wedi cynyddu. Mae nifer sylweddol o adar eraill megis y Fulfran, y Fulfran werdd, y Llurs a'r Gwylog hefyd yn nythu ar yr ynys.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]