Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Comisiwn Cefn Gwlad Cymru)
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1990 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cyngor Cefn Gwlad Cymru (Saesneg: Countryside Council for Wales), oedd awdurdod gofal am fywyd gwyllt yng Nghymru hyd at 31 Mawrth 2013. Roedd yn gorff a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithredu fel corff ymgynghorol statudol gyda'r amcan o warchod prydferthwch naturiol a bywyd gwyllt.
Fe'i gyfunwyd gyda'r Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru, un corff yn rheoli amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru, ar 1 Ebrill 2013 [1]
Mae gan Gymru dri Pharc Cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cyngor Cefn Gwlad Cymru sydd a'r hawl i ddynodi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Cynghorau eraill yn y DU
[golygu | golygu cod]- Natural England (Lloegr)
- NatureScot (Scottish Natural Heritage nes 2020) (Yr Alban)
- Environment and Heritage Service (Gogledd Iwerddon)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfoeth Naturiol Cymru. LLywodraeth Cymru. Adalwyd ar 18 Awst 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru Archifwyd 2013-10-13 yn y Peiriant Wayback