Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
Gwedd
Cyrff cyhoeddus anadrannol yw Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLCau) (Saesneg: Welsh Government sponsored bodies WGSBs) sy'n cael eu cyllido'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Cyn gweithredu Deddf Llywodraeth Cymru 2006, roedden nhw'n cael eu hadnabod fel Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad.
Rhestr o gyrff cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Mae rhestr o Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru i gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
CNLCau Gweithredol
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Gofal Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Chwaraeon Cymru
- Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru
- Cymwysterau Cymru
Hen CNLCau Gweithredol
[golygu | golygu cod]Cyfunwyd y cyrff yma gyda'i adrannau perthnasol.
- ELWa – Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant
- Proffesiynau Iechyd Cymru
- Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru
- Bwrdd Croeso Cymru
- Awdurdod Datblygu Cymru
- Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Pwyllgorau cynghori
[golygu | golygu cod]- Pwyllgorau Cynghori ar Anheddau Amaethyddol
- Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu
- Pwyllgor Deintyddol Cymru
- Pwyllgor Meddygol Cymru
- Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
- Pwyllgor Optometrig Cymru
- Pwyllgor Fferyllol Cymru
- Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
- Pwyllgor Cynghorol Therapïau Cymru
Tribiwnlys
[golygu | golygu cod]- Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
- Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl
- Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
- Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion Cymru
- Tribiwnlys Apeliadau Cofrestredig Arolygwyr Addysg Feithrin
- Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
- Tribiwnlys Prisio Cymru
- Tribiwnlys y Gymraeg
- Panel Dyfarnu Cymru