Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Daeth i ben2023 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1992 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.hefcw.ac.uk Edit this on Wikidata

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) (Saesneg: Higher Education Funding Council for Wales, HEFCW) yw’r Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ariannu’r sector addysg uwch.[1] Sefydlwyd CCAUC yn 1992 ond daw i ben yn 2023 wrth i Lywodraeth Cymru ailasesu ariannu prifysgolion Cymru.[2]

Swyddogaethau[golygu | golygu cod]

Baner HEFCW mewn digwyddiad yn 2023 cyn diddymu'r corff

Mae CCAUC yn dosbarthu cyllid ar gyfer addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig yn sefydliadau addysg uwch Cymru, ac yn ariannu gweithgareddau addysgu'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hefyd yn ariannu cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach.

Mae’r corff yn defnyddio adnoddau gan Lywodraeth Cymru ac eraill i:

  • sicrhau dysgu ac ymchwil addysg uwch o'r ansawdd uchaf;
  • gwneud y gorau o gyfraniad addysg uwch i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru;
  • dosbarthu'r grant ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion amser llawn sy'n hanu o Gymru i brifysgolion a cholegau; a
  • sicrhau hyfforddiant athrawon achrededig o ansawdd uchel ledled Cymru.

Mae'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at wella cyfiawnder cymdeithasol a chefnogi economi fywiog.

Mae CCAUC wedi nodi’r canlynol yn ei Strategaeth Gorfforaethol fel y meysydd y bydd yn gweithio arnynt yn bennaf:

  • Ehangu mynediad: sicrhau tegwch, cyfle a llwyddiant mewn addysg uwch.
  • Profiad myfyrwyr: sicrhau bod profiad dysgu myfyrwyr o ansawdd uchel.
  • Sgiliau: sicrhau bod yr holl raddedigion wedi'u harfogi ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer eu rôl fel dinasyddion.
  • Trosglwyddo gwybodaeth: sicrhau perthnasoedd mwy cynhyrchiol rhwng sefydliadau addysg uwch a’r sectorau cyhoeddus/preifat, cymunedau lleol ac asiantaethau eraill.
  • Ymchwil: sicrhau gwell perfformiad ymchwil i danategu’r economi wybodaeth ac adnewyddiad diwylliannol a chymdeithasol.
  • Ailgyflunio a Chydweithio: darparu system addysg uwch wedi’i hailgyflunio gyda darparwyr cryf sydd, trwy weithio mewn partneriaeth, yn enwedig yn rhanbarthol, yn cynnig cyfleoedd addysg uwch mwy hygyrch.
  • Llywodraethu: sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd llywodraethu a chynaliadwyedd hirdymor y system addysg uwch.

Rhaid i bob prifysgol yng Nghymru sydd am godi ffioedd dysgu uwchlaw lefel y ffioedd sylfaenol (£4,000 ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn 2012/13) geisio cymeradwyaeth CCAUC yn gyntaf drwy gyflwyno ‘cynllun ffioedd’ sy’n bodloni gofynion penodol mewn perthynas â i ehangu mynediad a chynhwysiant. [3]

Cefndir a statws[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae cyfrifoldebau CCAUC am hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA), gan gynnwys achredu darparwyr HCA, yn dod o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a Deddf Addysg 2005.

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae CCAUC yn cael ei gyllid gan Lywodraeth Cymru ac yn atebol iddi. Ar yr un pryd, mae CCAUC yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar anghenion cyllido, dyheadau a phryderon y sector addysg uwch. Mae CCAUC hefyd yn hyrwyddo buddiannau Cymru ym maes addysg uwch ehangach y Deyrnas Unedig.

Mae tua 45 aelod o staff yn gweithio i Weithrediaeth CCAUC, sydd wedi'i leoli ym Medwas, Sir Caerffili Cymru. Mae CCAUC yn cael ei lywodraethu gan Gyngor o hyd at 12 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, Mr David Allen, a’r Prif Weithredwr, Dr David Blaney.

Diddymu HEFCW[golygu | golygu cod]

Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Senedd Cymru, Jeremy Miles AS, bydd HEFCW yn dod i ben fel rhan o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.[2] Caiff ei disodli gan gorff newydd Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Commission for Tertiary Education and Research; CTER) a sefydlir yn 2023. Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio'r sectorau canlynol:

  • Addysg bellach (AB), gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion
  • Addysg uwch (AU), gan gynnwys ymchwil ac arloesi
  • Addysg i oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned
  • Prentisiaethau a hyfforddiant [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 "Welsh higher education funding body to be dissolved and new 'national steward' role created". Nation.Cymru. 1 Tachwedd 2021.
  3. "Higher Education Funding Council for Wales: Full-time undergraduate fees". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-27. Cyrchwyd 2023-05-22.
  4. "Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil". Gwefan Llywodraeth Cymru. 21 Medi 2022. Cyrchwyd 22 Mai 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]