Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Senedd Cymru |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Pasiwyd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 gan Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 08 Medi 2022. Fe'i cyflwynwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.[1]
Disgrifir y ddeddf fel, 'Deddf gan Senedd Cymru i sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac i wneud darpariaeth arall ynghylch addysg drydyddol (sy'n cynnwys addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant) ac ymchwil.'
Roedd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, fel y corff rheoleiddio annibynnol sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Bydd addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau a chweched dosbarth;
- Cofrestru a rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol;
- Sicrhau ac ariannu addysg drydyddol ac ymchwil; Prentisiaethau;
- Diogelu dysgwyr, gweithdrefnau cwynion ac ymgysylltu â dysgwyr;
- Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau; a Darpariaethau amrywiol a chyffredinol.[2]
Diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru[golygu | golygu cod]
Gyda pasio'r ddeddf daethpwyd â Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i ben, corff a sefydlwyd yn 1992.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ llyw.cymru; adalwyd 20 Chwefror 2023.
- ↑ busnes.senedd.cymru; adalwyd 20 Chwefror 2023.