Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2024 |
Mae'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (defnyddir y talfyriad Cymraeg, CADY, yn y Gymraeg, ac yn aml, yn y Saesneg hefyd) (Saesneg: Commission for Tertiary Education and Research; CTER) yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a chyfuno agweddau eraill o waith strategol cynllunio addysg yn y maes. Roedd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022) yn un o’r biliau olaf i gael Cydsyniad Brenhinol gan Frenhines Elisabeth II, cyn iddi farw yn gynharach yn y flwyddyn. Sefydlwyd y Comisiwn yn gyfreithiol yn 2022 a bydd yn weithredol yn 2024 [1] a bydd yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio'r sectorau canlynol:
- Addysg bellach (AB), gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion
- Addysg uwch (AU), gan gynnwys ymchwil ac arloesi
- Addysg i oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned
- Prentisiaethau a hyfforddiant [2]
Cefndir[golygu | golygu cod]
Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Ellen Hazelkorn i gynnal adolygiad o lywodraethu, rheoleiddio a goruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau brif argymhelliad:
- datblygu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y sector AHO
- sefydlu corff hyd braich newydd sy'n gyfrifol am oruchwylio, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth y sector.
Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Senedd Cymru, Jeremy Miles AS, y byddai CCAUC yn dod i ben fel rhan o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.[3] Gydag hynny daeth y Comisiwn i fodolaeth - er y tueddir i alw'r Comisiwn wrth ei thalfyriad Saesneg, CTER. Bu sefydlu CETR yn un o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i fframwaith system addysg Cymru ers Datganoli. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i arloesi gydag un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu cyffredinol ar gyfer addysg drydyddol. [1]
Rhoi trefn ar addysg ôl-orfodol[golygu | golygu cod]
Yn ôl yr awduron, cyfrifoldeb CTER fydd gwireddu’r weledigaeth a nodir yn argymhellion adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn yn 2016, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, o system ôl-orfodol integredig a chydlynol. Meddai'r Athro Hazelkorn yn ei hadroddiad:
“Mae un corff goruchwylio ar gyfer addysg drydyddol yn gwneud synnwyr ar adeg pan oedd cenhedloedd yn gynyddol yn rhoi mwy o sylw polisi i’r rhai nad ydynt yn mynychu’r brifysgol, ac felly’n edrych yn gynyddol ar ddatblygu systemau ôl-orfodol “mwy cydlynol”.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel Endid Cyfreithiol - Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)". Gwefan ColegauCymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil". Gwefan Llywodraeth Cymru. 21 Medi 2022. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Welsh higher education funding body to be dissolved and new 'national steward' role created". Nation.Cymru. 1 Tachwedd 2021.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gwybodaeth am y Comiwsiwn ar wefan Llywodraeth Cymru (Cymraeg)