Mulfran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mulfran
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Pelecaniformes
Teulu: Phalacrocoracidae
Genws: Phalacrocorax
Rhywogaeth: P. carbo
Enw deuenwol
Phalacrocorax carbo
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Fulfran (Lladin: Phalacrocorax carbo), yn aelod o deulu'r ''Phalacrocoracidae''. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac yn ymestyn cyn belled ag Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd yn nythu ar afordir ddwyreiniol Gogledd America. Enwau arall arno yw Bilidowcar a Morfran.

Mulfran (Phalacrocorax carbo) yn Victoria, Awstralia

Arferion nythu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Fulfran yn nythu ger glan y môr fel rheol, ar glogwyni neu mewn coed, ond mae nifer gynyddol yn nythu ymhell o'r môr e.e. Craig y Deryn. Adeiledir y nyth o frigau a gwymon fel rheol, ac mae'n dodwy 3 neu 4 wy.

Bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Pysgod yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal drwy nofio o dan y dŵr, un ai ar y môr neu ar lynnoedd ac afonydd. Gall blymio'n ddwfn i'r dŵr a threulio hyd at 30 eiliad dan yr wyneb.

Adnabod yn y maes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n aderyn cyfarwydd, yn ddu drosto ac yn aderyn mawr, 77–94 cm o hyd a 121–149 cm ar draws yr adenydd, gyda darn melyn heb blu ar y gwddf. Yn Ewrop rhaid bod yn ofalus i'w wahaniaethu oddi wrth y Fulfran Werdd sy'n edrych yn weddol debyg, ond mae'r Fulfran yn aderyn mwy gyda phig mwy.

Statws[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Fulfran yn aderyn cyfarwydd sydd i'w weld yn ami ar ein glannau creigiog yn sefyll adenydd ar led. Yn y ddau atlas blaenorol ac yn ôl y cyfrifiad Ilawn diwethaf o Fulfrain yn 1999-2002, dim ond yn y tair sir orllewinol y daethpwyd o hyd i Fulfrain yn nythu. Ni chafwyd tystiolaeth o'r un Fulfran yn nythu i'r dwyrain o Riwledyn. Cynyddodd nifer y nythod 50% yng Ngogledd Cymru rhwng 1969-70 a 1999-2002, gan gyfrif am 10% o holl nythod Gwledydd Prydain. Yn Rhiwledyn (428 nyth) ac ar Ynys Seiriol (353 nyth) yr oedd y nythfeydd mwyaf. Gwelwyd adar yn chwilio am safleoedd addas i nythu yng nghyffiniau aber afon Dyfrdwy, cronfeydd dwr ar Fynydd Hiraethog a llynnoedd Ynys Mon. Ni wyddys hyd yma a fydd nythfeydd yn datblygu yn yr ardaloedd hyn.[1].

Yng Nghymru mae'r Fulfran yn aderyn cyffredin iawn o gwmpas y glannau ac ar lynnoedd. Bydd yn nythu yn y siroedd gorllewinol o Benfro i Ynys Môn. Yn aml, fe'i gwelir allan yn y môr. Mae'n ymwelydd cyson â llynnoedd mewndirol, yn bennaf rhwng diwedd haf a dechrau gwanwyn. Mae gwledydd Prydain ac Iwerddon yn gartref i tua 14% o boblogaeth Mulfrain Ewrop (Lloyd et al 1991). Credir bod rhwng 83,000 ac 85,000 ohonynt. Yn ôl arolwg Seabird Colony Register (1985-87) amcangyfrir bod tua 11,700 rhwng gwledydd Prydain ac Iwerddon, ac yng Nghymru gwelwyd bod tua 1,700 o barau, sy'n dangos cynnydd o dros 19% ers yr arolwg gwreiddiol (Operation Seafarer) rhwng 1969-70, a thua 15% o rai gwledydd Prydain ac Iwerddon.

Nid yw'r Fulfran yn nythu mewn siroedd sydd â thraethau heb glogwyni sef Fflint, Dinbych, Mynwy, Caerfyrddin a Morgannwg. Nythodd nifer fechan yn Thurba Head, Penrhyn Gŵyr, hyd ddiwedd y 1970au, ond nid ar ôl 1971. Amheuir bod rhai wedi nythu o bryd i'w gilydd yn Wharley Point a Telpyn Point yn Sir Gaerfyrddin, ond ni chafwyd prawf pendant. Y prif ardaloedd nythu ar hyd arfordir Cymru yw'r ardaloedd gorllewinol.[2]

Cadarnleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r niferoedd o Fulfrain yn amrywio yn y cytrefi o flwyddyn i flwyddyn, o bosib yn dibynnu ar faint o fwyd sydd ar gael, oherwydd ambell flwyddyn nid yw'r adar llawn dwf yn paru.

Gwelir y cytrefi mwyaf yng Nghymru, y rhai sydd gyda dros gant o nythod yn Ynys Santes Marged (Penfro), uchafswm o 322 o barau (1973), Ynys Pender (Sir Aberteifi) uchafswm o 176 o barau (1978 a 1982), Ynys yr Adar (Ynys Môn) uchafswm o 116 o barau (1974), Ynys Seiriol (Ynys Môn) uchafswm o 370 o barau (1986) a Rhiwledyn (Sir Gaernarfon) uchafswm o 308 o barau (1986). Astudiwyd cytref Ynys Marged gan S J Sutcliffe dros gyfnod o 25 mlynedd rhwng 1967 a 1992, ac mor bell yn ôl â 1930 amcangyfrodd Bertram Lloyd bod cant o barau yno.

Er bod cytref Craig yr Aderyn (Meirionnydd) yn llai o faint, hwn yn ddi-os yw'r un mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Fe'i lleolir 7 cilomedr o'r môr o Dywyn (Meirionydd) ar graig gyda chytref o rhwng 30 a 70 o nythod. Yn 1990, roedd 67 o barau yno. Tybir bod y fan hon, gyda Mulfrain yn dyddio'n ôl i'r cyfnod cyn-oesol. Yn 1778 galwodd Thomas Pennant y lle yn ‘Graig yr Adar' am fod yno gymaint o fulfrain, colomennod a hebogiaid yn nythu yno. Nid yw safleoedd mewndirol eraill yng Nghymru wedi eu cofnodi yn y cyfnod diweddar, ond roedd Mathew yn honni yn 1974 bod mulfrain yn nythu mewn coed yn Sir Benfro yn y 19g!

Tu allan i'r tymor nythu mae'r Mulfrain yn niferus o gwmpas arfordir Cymru, yn aml i'w gweld yn yr aberoedd, llynnoedd, cronfeydd dŵr ac afonydd. Cofnodwyd 154 allan yn y môr ger Aberystwyth yn 1983 a gwelir rhai'n pasio heibio Môr Iwerddon yn yr Hydref, yn fwyaf tebygol o gytrefi mwy gogleddol.

Gwelir clwydau o 100 a mwy mewn sawl sir ee Morfa Harlech (rhif uchaf 235, Medi 1986),Goleudy Whitford Point (Gŵyr), (rhif uchaf113, Gorffennaf 1981), Clogwyn Friog, Meirionydd, rhif uchaf 12O, Wharley Point, Caerfyrddin rhif uchaf 283, Awst 1974, a hyd yn oed yn Sir Fynwy (rhif uchaf 100 –Piercefield, Mehefin, 1987).O'r adar sydd heb fudo dros y gaeaf (yn ôl S J Sutcliffe, pers comm.), mae nifer ohonynt yn driw i'w safle mewndirol. [2]..

Symudiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf.

Dengys modrwyo, yn bennaf ar Ynys Santes Marged ac Ynys Seiriol bod yr adar llawn dwf a'r rhai ifanc yn gwahanu, yn fwyaf tebygol i gyfeiriad y de a'r dwyrain, ac mae nifer cynyddol yn mudo i'r gogledd (S J Sutcliffe, in litt.) Bydd rhan o'r mudo dros y tir mawr. Gwelir hefyd bod rhai adar ifanc wedi mudo yma o'r Iseldiroedd (4), Aber Afon Rhone (1) a'r Eidal (1). Cofnodwyd un aderyn ifanc o Norwy yn Morgannwg yn ystod ei aeaf cyntaf.

Erledigaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tybir bod y cynnydd graddol yn rhannol oherwydd nad yw'r Fulfran yn cael ei herlid cymaint ag y bu. Edrychid arnynt fel pla gan bysgodfeydd a chaent eu saethu oherwydd hynny. Yn arbennig, oherwydd am eu bod yn mynychu llynnoedd oedd wedi eu stocio â physgod a chronfeydd dŵr, 'roedd hyn yn eu gwneud yn gystadleuwyr gyda physgotwyr. O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gellir rheoli Mulfrain o dan drwydded i osgoi difrod i bysgodfeydd. Ond yng Nghymru yn ystod yr wythdegau 'roedd Bwrdd Dŵr Cymru yn erbyn lladd Mulfrain gan iddynt addasu polisi oedd yn rheoli'n effeithiol adar oedd yn ysglyfaethwyr pysgod drwy Gymru gyfan. Mae Rhanbarth Cymru o'r Awdurdod Afonydd wedi parhau i wneud hyn ers 1989. Boddwyd nifer fechan o Fulfrain mewn rhwydi tagellau yn agos i'r lan (D. Thomas, pers comm.), ond nid yw hi'n broblem fawr, er bod cynnydd yn y defnydd o'r rhwydi 'monofilament' hyn [2].

Mulfrain yn Ardal Llandudno[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Llandudno yn le arbennig am fulfrain! Er, fel Llanciau Llandudno maent yn cael eu hadnabod gan nifer fawr yn yr ardal. Rhoddir y bai am hyn ar bysgotwyr Bangor a nhw hefyd fyddai'n bryfoclyd am Frain Penmaenmawr a Jac Dos Conwy!

Bydd nifer fawr yn ymgasglu i nythu ar Ben y Gogarth (Gogarth Fawr) ac ar Greigiau Rhiwledyn (Gogarth Fach). Yn ôl y niferoedd a gyhoeddwyd gan Barc Gwledig y Gogarth am 2017 bu 590 o barau yn nythu ar Greigiau Rhiwledyn a 106 o barau ar Ben y Gogarth.

Mae'n olygfa ddyddiol i weld mulfrain yn hedfan oddi ar Greigiau Rhiwledyn i gyfeiriad Craig y Don gan ddilyn y traeth am rhyw 400 medr ac yna'n troi'n ôl a dychwelyd i glwydo ar y Gogarth Fach.

Mulfrain yn casglu deunydd nythu ar Greigiau Rhiwledyn

Tua diwedd Ebrill, bob blwyddyn, mae rhywbeth anarferol iawn yn digwydd. Bydd heidiau o'r mulfrain uwchben y cae tu ôl i dai Ael y Bryn, a rhyw ddeg i ddwsin ohonynt ar y tro yn disgyn ar y cae ac yn casglu gwelltglas a phlanhigion, fel pe bai'r cyfan ohonynt (ac y mae yna gannoedd) wedi penderfynu ar yr un pryd i chwilio am ddeunydd nythu. Gwelwyd cannoedd ohonynt wrthi ar Fai 16,2016. Pan dynnwyd llun ohonynt yn 2011, 'roeddynt wrth eu gwaith dros bythefnos ynghynt.Tywydd oerach yn 2011 wedi gwneud iddynt bwyllo, efallai!

Mulfrain ar Greigiau Rhiwledyn

Tynnwyd y lluniau yma (a'r rhai o'r adar ar y Gogarth) o gwch.

Y fulfran yn barod i ymladd ag unrhyw un!

Mae'n hen arferiad gweld mulfrain yn hedfan oddi ar Greigiau Rhiwledyn i gyfeiriad Craig y Don gan ddilyn y traeth ac yna'n troi'n ôl a dychwelyd i glwydo ar y Gogarth Fach. Pur anaml maent yn newid eu taith, er unwaith, yn 2007, fe laniodd un mewn gardd yn Rhiwledyn. Bu yno am rai oriau yn sgyrnygu ar unrhyw un oedd yn mynd yn agos. Cafwyd cymorth gan yr RSPCA i archwilio'r aderyn, ei gymryd a'i ryddhau ar lan y traeth, mi hedfanodd i ffwrdd yn gryf!

Lluniau Mulfrain ar y Gogarth (Pen y Gogarth)

Ymddengys bod y Gwylogiaid yn fwy niferus na'r Mulfrain yma.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadu[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Brenchley, A. ac eraill (2013) Adar Nythu Gogledd Cymru, Gwasg Prifysgol Lerpwl)
  2. 2.0 2.1 2.2 Lovegrove, R., Williams, G., a Williams, I., (1994); Birds in Wales, Cyh: T. & A.D. Poyser