Craig yr Aderyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Craig y Deryn)
Jump to navigation Jump to search
Craig yr Aderyn (bryngaer)
Craig yr Aderyn
Craig yr Aderyn, Llanfihangel-y-Pennant
Craig yr Aderyn o'r gorllewin
Craig yr Aderyn dan eira.

Bryn yn ne Gwynedd yw Craig yr Aderyn (neu Craig y Deryn ar lafar), sy'n codi o lefel y môr i uchder o dros 250 medr ar lethrau deheuol Dyffryn Dysynni, ger Llanfihangel-y-pennant ym Meirionnydd. Caiff ei henw am ei bod yn fan nythu i nifer fawr o adar megis y Bilidowcar, er fod y graig, bellach, cryn dwy filltir o'r môr. Ceir nifer o dyllau ynddi sy'n cael eu defnyddio gan yr adar i ddodwy a magu cywion.

Hen ffotograff c. 1890-1900

Amddiffynfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Craig yr Aderyn, hefyd, yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn; cyfeirnod OS: SH644068.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME075.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Ceir olion caer fach o Oes yr Haearn ar gopa'r graig. Doedd dim angen llawer o waith amddiffyn am fod y safle ei hun mor gryf, ond codwyd clawdd o ffurf L rhwng y clogwynni syrth i greu amddiffynfa. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd mur pur sylweddol ar yr ochr ddwyreiniol a gellir gweld olion y fynedfa, sy'n troi i mewn ar ei hun.[2]

Mae adfeilion Castell y Bere, a godwyd gan dywysogion Gwynedd yn y 13g, gerllaw. Yn ôl traddodiad lleol, roedd dau dŵr i wylwyr y castell ar ben y graig a byddai'r gwylwyr yn codi baner goch yn rhybudd i'r castellwyr pe bai perygl. Gelwir dau wyneb amlwg y graig yn 'Y Palis Mawr' ac 'Y Palis Bach' yn lleol.[3]

Cân werin[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirir at y graig yn yr hen gân werin 'Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn':

Dod drwy Abergynolwyn
Wedyn heibio Craig y Deryn:
Pan gyrhaedd'som Ynys Maengwyn.
Gwaeddai Deio, "Dacw Dywyn!"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1977), tud. 112.
  3. William Davies, 'Casgliad o Lên Gwerin Meirion', yn Cofnodion a chyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog 1898 (1900), tud. 153.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]