Herbert Luck North

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Herbert L. North)
Herbert Luck North
Ganwyd1871 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
Bu farw9 Chwefror 1941 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpensaer, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Pensaer arloesol o Gymru sy'n gysylltiedig â'r mudiad Celf a Chrefft oedd Herbert Luck North (18719 Chwefror 1941). Roedd yn frodor o bentref Llanfairfechan, sir Conwy.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd Herbert L. North ei addysg yn Ysgol Uppingham (yn Uppingham, Rutland) a Choleg yr Iesu, Caergrawnt. Derbynwyd North yn aelod o'r F.R.I.B.A a threuliodd gyfnod yn cynorthwyo Syr Edwin Lutyens cyn ffurfio partneriaeth o benseiri yn Llundain. Ar droad yr 20g dychwelodd i ogledd Cymru i fyw yn Llanfairfechan.

Cynlluniodd sawl tŷ yn The Close, ystad agored anffurfiol o dai a ddylunwyd ganddo uwchben Llanfairfechan, yn cynnwys y Wern Isaf, a ddylunodd ac adeiladodd yn 1900 yn gartref iddo fo ei hun. Mae dyluniad y tŷ wedi ei ddylanwadu gan yr arddull Celf a Chrefft, gyda'r ystafelloedd yn agor i'w gilydd.

Daeth North yn gyfaill mawr i bensaer lleol arall, Henry Harold Hughes. Roedd gan y ddau ddidordeb mawr ym mhensaernïaeth hen eglwysi a bythynod traddodiadol Eryri a'r cylch. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol The Old Cottages of Snowdonia (1908) a The Old Churches of Snowdonia (1924). Cyhoeddodd North astudiaeth fwy lleol o eglwysi Arllechwedd hefyd.

Ymhlith yr enghreifftiau o waith pensaernïol Herbert L. North yng ngogledd Cymru, ar wahân i ystad The Close, gellid nodi adeiladau ysgol Gyffin a Caerhun yn Nyffryn Conwy ac Ysbyty Dolgellau.

Bu farw Herbert L. North yn 1941, blwyddyn yn unig ar ôl H. Harold Hughes, a'i claddu yn y beddrod teuluol yn Eglwys Llanfairfechan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Adargraffiad 1984 o The Old Churches of Snowdonia, nodyn ar yr awduron.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Old Churches of Arllechwedd (1906)

Gyda H. Harold Hughes:

  • The Old Cottages of Snowdonia (Bangor, 1908)
  • The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924). Adargraffwyd gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984.