Neidio i'r cynnwys

The Old Churches of Snowdonia

Oddi ar Wicipedia

Llyfr am hen eglwysi Eryri yw The Old Churches of Snowdonia, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Herbert Luck North a Henry Harold Hughes. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan gwmni Jarvis and Foster, Bangor, yn 1924. Cafwyd adargraffiad ffacsimili gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri yn 1984.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Roedd H. L. North a H. H. Hughes eisoes wedi cyhoeddi astudiaeth o hen fythynod Eryri yn 1908, sef The Old Cottages of Snowdonia. Pensaer oedd North, a ymsefydlodd yn Llanfairfechan. Yno daeth i adnabod y pensaer ac archaeolegydd Cymreig Harold H. Hughes. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol hyn ar bensaernïaeth draddodiadol ardal Eryri, a ystyrir yn astudiaethau safonol hyd heddiw.[1]

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Ceir rhagymadrodd cyffredinol ar ddechrau'r gyfrol sy'n trafod y cefndir hanesyddol a datblygiad pensaernïaeth yr eglwysi cynnar hyn, a sefydlwyd yng nghyfnod Teyrnas Gwynedd.

Ymdrinir yn fanwl â'r eglwysi canlynol:

Penmon ac Arllechwedd
Arfon a Beddgelert

Yn ogystal i'r hen eglwsi eu hunain, ceir manylion am hynafiaethau perthynol fel ffynhonnau sanctaidd a meini arysgrifiedig cynnar.

Manylion cyhoeddi

[golygu | golygu cod]
  • The Old Churches of Snowdonia (Jarvis and Foster, Bangor, 1924).
    • Adargraffiad ffacsimili gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984. Gyda rhagymadrodd ychwanegol, atodiadau a nodiadau ar ddiwedd y llyfr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 The Old Churches of Snowdonia (argraffiad 1984). Rhagymadrodd.