Eglwys Sant Rhychwyn

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Rhychwyn
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefriw Edit this on Wikidata
SirTrefriw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr217.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1375°N 3.83299°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Tu fewn yr eglwys, gan wynebu'r allor tua'r dwyrain.

Saif Eglwys Sant Rhychwyn (a gaiff hefyd ei hadnabod fel Eglwys Llywelyn neu Eglwys Llanrhychwyn) ym mhentref Llanrhychwyn tua dwy filltir i'r gorllewin o Drefriw, Sir Conwy (SH77486161). Dyma eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Rychwyn. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac yn ôl rhai haneswyr dyma eglwys hynaf Cymru.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Dywedir i'r eglwys wreiddiol gael ei sefydlu yn y 7g gan Sant Rhychwyn a oedd yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad. Ceir llun dychmygol o Rychwyn gyda Dewi Sant yn eglwys Llanrwst. Ei wylmabsant yw 12 Gorffennaf. Roedd Helig ap Glannog yn dywysog Cymreig a reolodd gryn dipyn o dir, gan gynnwys Ynys Seiriol oddi ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn. Dywedir y boddwyd y tir hwn ac ar ôl llyncu mul, cofleidiodd Helig a’i feibion y bywyd crefyddol.[2]

Yn ôl traddodiad roedd y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, yn blino ar deithio yr holl ffordd o'r llys yn Nhrefriw i eglwys Llanrhychwyn ac felly cododd Llywelyn eglwys newydd iddi yn Nhrefriw yn y flwyddyn 1220.

Mae'r fedyddfaen cyn hyned a'r eglwys ei huna, ac fe'i gosodwyd ar bedestal ar ffurf dau ris. Ceir sawl ffenest liw canoloesol, mae'r un a welir ar y dde'n dyddio'n ôl i o leiaf 1533. Credir fod y drws derw soled a'r gloch hefyd yn perthyn i'r 13g - cloch a ddaeth o Abaty Maenan, o bosibl. Mae gwaith pren yr allor yn mynd yn ôl i 1616 a'r pulpud i 1691. Yn 1614 y gwnaed y ffiol ac mae'n waith celf hynod o gain.[3]

Llywelyn a Siwan[golygu | golygu cod]

Credir fod gan Llywelyn Fawr blasty hela o'r enw'r "Tŷ Du" rhywle'n y cyffiniau - o bosib i gyfeiriad Llyn Geirionnydd - ond ni wyddom bellach yr union leoliad. Roedd gan Llywelyn hefyd gysylltiad agos gyda mynachod yr ardal. Cefnogodd Llywelyn y myneich o Abaty Aberconwy (a symudwyd yn ddiweddarach i Abaty Maenan)[4] Wedi i Llywelyn a Siwan briodi, beichiogodd Siwan (gyda Dafydd) ac yn ôl yr hanes, roedd y daith i'r capel hwn yn Llanrhychwyn - taith o tua dwy filltir i fyny'r allt - cryn siwrnai i ferch feichiog. Dywedir i Lywelyn godi capel arbennig ar ei chyfer yn Nhrefriw, a dethlir y cysylltiad brenhinol yn ffenest liw'r eglwys bresennol (sef y Santes Fair).

Rhannau[golygu | golygu cod]

Y Ffenestr liw[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Hydref 2014
  2. www.snowdoniaheritage.info; adalwyd 26 Hydref 2014
  3. An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: I East ..., Volume 1 gan Y Comisiwn Brenhinol dros Henbion; adalwyd 26 Hydref 2014.
  4. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947).
  5. Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 26 Hydref 2014.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]