Llyn Geirionydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llyn Geirionnydd)
Jump to navigation Jump to search
Pen gogleddol Llyn Geirionydd.
Pen deheuol Llyn Geirionydd.

Llyn yn sir Conwy yw Llyn Geirionydd (weithiau Llyn Geirionnydd). Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 45 acer a dyfnder o tua 50 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Geirionydd o'r llyn i ymuno ag Afon Crafnant.

Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw heibio pentref Llanrhychwyn, neu o dref Llanrwst. Gellir cerdded o ardal Llyn Crafnant dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio ger y llyn, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Ychydig o bysgod sydd yn y llyn; credir fod llygredd o'r cloddfeydd metel yn y cyffiniau yn parhau.

Llyn Geirionydd yw'r unig lyn yn Eryri lle caniateir cychod modur a sgïo dŵr; mae rhai grwpiau yn ymgyrchu dros gael gwahardd y gweithgareddau yma ar y llyn, gan ddadlau eu bod yn tarfu ar yr heddwch.

Cysylltiadau llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir traddodiad poblogaidd yng Nghymru sy'n cysylltu'r bardd o'r 6g, Taliesin a Llyn Geirionydd, ond mae'n draddodiad cymharol ddiweddar a dyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd 'Anrheg Urien',

Mineu Dalyessin o iawn llyn gerionnyd

a ddehonglwyd fel 'Minnau, Taliesin, o lan Llyn Geirionnydd'. Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint).[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jonah Jones "The Lakes of North Wales" (Whittet Books Ltd, 1987)
  • Geraint Roberts "The Lakes of Eryri" (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; argraffiad newydd 1977).
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: