Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ieuan Glan Geirionydd
Ieuan Glan Geirionydd.JPG
Engrafiad o'r gyfrol Ceinion Llenyddiaeth Gymreig (1876)
Ganwyd Evan Evans
20 Ebrill 1795
Trefriw, Sir Conwy
Bu farw 21 Ionawr, 1855
Y Rhyl, Sir Ddinbych
Cenedligrwydd Cymro
Enwau eraill Enw barddol: Ieuan Glan Geirionydd
Yn enwog am barddoniaeth delynegol, emynau
Addysg Ysgol Rad Llanrwst
Galwedigaeth Offeiriad, bardd, golygydd
Gweithgar 1810au - 1855
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Evan Evans (gwahaniaethu).

Bardd, emynydd, ac offeiriad oedd Evan Evans, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Ieuan Glan Geirionydd (20 Ebrill, 1795, Trefriw - 21 Ionawr, 1855, Y Rhyl). Roedd y beirniad llenyddol Saunders Lewis yn ei ystyried yn un o feirdd mwyaf y traddodiad clasurol Cymraeg ac yn olynydd teilwng i Goronwy Owen[1], er bod Ieuan yn canu'n bennaf ar y mesurau rhydd, oherwydd ei ofal am ffurf ac iaith a'r Stoiciaeth sy'n elfen mor amlwg yn ei gerddi.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Evans Evans yn Nhanycelyn, Trefriw, ar lan Afon Geirionydd (dyna pam y dewisodd yr enw barddol 'Ieuan Glan Geirionydd'). Methodistiaid oedd ei rieni, ond cafodd Ieuan ei urddo 'n offeiriad Anglicanaidd pan oedd yn hŷn.

Cafodd y bardd ei addysg ganolradd yn Ysgol Rad Llanrwst. Ar ôl i'r ysgol gau ei drysau ac i'r adeilad ddechrau dadfeilio, cyfansoddodd un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yn galaru am yr ysgol a'i hen ffrindiau. Dyma un bennill:

Mae sŵn y gloch yn ddistaw,
Heb dorf yn dod o'r dre',
A bolltau'th ddorau cedyrn
Yn rhydu yn eu lle;
Ystlum â'u mud ehediad
Sy'n gwau eu hwyrdrwm hynt
Lle pyncid cerddi Homer
A Virgil geinber gynt.[2]

Cadwodd ysgol yn Nhal-y-bont, Dyffryn Conwy, yn 1816 cyn symud i ddinas Caer fel is-olygydd y cylchgrawn Goleuad Gwynedd, cylchgrawn Anglicanaidd, a daeth Ieuan yn aelod o'r eglwys honno a chafodd ei urddo'n offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1826. Gwasanaethodd fel curad ym mhlwyfi Esgobaeth Caer cyn ymddeol yn 1852 a dychwelyd i fyw yn Nhrefriw lle arhosodd am weddill ei oes.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cartref Ieuan yn Nhrefriw, tua 1875.

Clasuriaeth delynegol gydag arlliw Rhamantaidd sy'n nodweddu cerddi rhydd Ieuan. Gyda John Blackwell (Alun), ef yw arloeswr y canu rhydd telynegol yng Nghymru ac un o'i feistri mawr. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus mae 'Ysgoldy Rad Llanrwst' (gweler uchod), 'Caniad y Gog i Arfon', 'Cyflafan Morfa Rhuddlan' a 'Glan Geirionydd'. Elfen arall sy'n amlwg yn y cerddi hyn yw dylanwad y canu penillion traddodiadol, ac mae'r cyfuniad o glasuriaeth a Stoiciaeth ar y naill law a'r ymwybod o ganu traddodiadol y werin ar y llaw arall yn rhoi i'w waith ansawdd arbennig.

Canodd ar y mesurau caeth hefyd ac er bod rhai o'i gynigion eisteddfodol yn drwm dan ddylanwad ieithwedd a ffugeiriau William Owen Pughe, mae'r goreuon, fel y cywydd 'I'r Bedd', yn gerddi gorchestol. Ysgrifenodd nifer o emynau yn ogystal, yn cynnwys 'Ar lan Iorddonen ddofn', sy'n cael eu cyfrif gan rai beirniaid ymhlith y gorau yn yr iaith Gymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith y bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Geirionydd, golygwyd gan Richard Parry (Gwalchmai) (Rhuthun, 1862). Casgliad cynhwysfawr, ond anghyflawn serch hynny, o gerddi a rhyddiaith y bardd.

Ceir detholiad o gerddi wedi'i olygu gan Saunders Lewis, gyda rhagymadrodd, yn:

  • Saunders Lewis, Detholion o waith Ieuan Glan Geirionydd (Caerdydd, 1931)

Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Saunders Lewis, Detholion o waith Ieuan Glan Geirionydd (Caerdydd, 1931),
  2. Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: