Llyn Crafnant
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr, llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Trefriw |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.235 km² |
| Uwch y môr | 188 metr |
| Cyfesurynnau | 53.131675°N 3.871443°W |
| Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Crafnant |
![]() | |
Llyn yn sir Conwy yw Llyn Crafnant. Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr ac oddi tan grib Cefn Cyfarwydd. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 63 acer a dyfnder o 71 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Crafnant o'r llyn i ymuno ag Afon Conwy.
Adeiladwyd argae yma yn 1874, a gerllaw mae cofeb a godwyd gan drigolion Llanrwst yn 1896 fel arwydd o ddiolgarwch am y rhodd iddynt o'r llyn a 19 acer o dir gan Richard James.

Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw neu gerdded o ardal Llyn Geirionydd dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio sy'n eiddo'r Comisiwn Coedwigaeth yma, a cheir pysgota am frithyll.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Jonah Jones "The Lakes of North Wales" (Whittet Books Ltd, 1987)
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
- T.J.Jehu “Bathymetrical Survey of the Lakes of Snowdonia” (The Royal Society of Edinburgh, 1902)
