Llanfair-is-gaer

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfair-is-gaer
Llanfair-is-gaer ger y Felinheli, Gwynedd 15.JPG
Math Plwyf, Eglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.170162°N 4.242977°W Edit this on Wikidata
Yr eglwys o'r gogledd.

Eglwys hynafol a phlwyf ar lan Afon Menai, rhwng Caernarfon a'r Felinheli, yn Arfon, Gwynedd, yw Llanfair-is-gaer (hefyd Llanfair Isgaer, Llanfair Is Gaer). Cyfeirnod OS 501601. Mae'r gaer yn yr enw yn cyfeirio at gaer Segontium. Gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Arfon Is Gwyrfai.

Eglwys fechan o gynllun syml ydyw. Yn anffodus, fel llawer o eglwysi eraill yng ngogledd Cymru, cafodd ei "hadnewyddu" yn sylweddol iawn gan y pensaer Syr Gilbert Scott yn 1865. Ychwanegodd Scott porth a ffenestri newydd arddull Gothig. Mae'n debygol bu eglwys Geltaidd gynnar ar y safle. Mae'r clochdy bychan a'r muriau yn aros o'r adeilad gwreiddiol a cheir bedyddfaen hynafol hefyd.[1]

Ceir cysylltiad posibl rhwng Llanfair-is-gaer a'r chwedl am yr hwch arallfydol Henwen y ceir ei hanes mewn un o'r Trioedd. Yn ôl y chwedl, aeth Henwen i'r Maen Du yn Llanfair yn Arfon (Llanfair-is-gaer efallai, yn ôl Rachel Bromwich) lle esgorodd ar gath. Mewn ofn, bwriodd Coll fab Collfrewi y gath honno i'r Fenai, ond goroesoedd a thyfodd i fyny i fod yn Gath Palug, y gath ryfeddol y ceir traddodiadau amdani o Fôn i'r Alpau.[2]

Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd Capel Curig, 1984), tt. 204-08.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Triawd 26.