Eglwys Tudno
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandudno ![]() |
Sir | Llandudno ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 101.8 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.337°N 3.84912°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Cysegrwyd i | Tudno ![]() |
Manylion | |
Eglwys hynafol ar ochr ogleddol Pen y Gogarth, ger Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, yw Eglwys Tudno. Mae'n gorwedd mewn llecyn gwyrdd uwchben y môr tua hanner ffordd o Ffordd y Môr (Marine Drive) i gopa Pen y Gogarth.
Cysegrir yr eglwys, a gofrestrwyd gan CADW yn Gradd II*, i Sant Tudno, a'i sefydlodd yn y 6g, yn ôl traddodiad. Yn yr Oesoedd Canol dyma eglwys plwyf Llandudno, un o dri phlwyf cwmwd canoloesol y Creuddyn yn Rhos.
Mae'r rhannau hynaf o'r adeilad yn dyddio i'r 12g ac mae'n perthyn i ddosbarth o eglwysi yng ngogledd-orllewin Cymru a godwyd yn oes Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Mae'n debyg mai dim ond tua 31 wrth 14 troedfedd oedd yr eglwys garreg gyntaf, ond ychwanegwyd ati dros y canrifoedd, yn enwedig yn y 15g. Difrodwyd yr adeilad yn ddifrifol mewn ystorm enbyd ym 1839, a bu'n gorwedd yn wag hyd 1855 pan ddechreuwyd ar y gwaith o'i hailgodi.
Ar y mur y tu ôl i'r allor ceir cerfiad hynafol o ddraig hir (ceir cerfiad cyffelyb yn Eglwys Dolwyddelan). Yn ystod y gwaith i ailadeiladu'r eglwys cafwyd hyd i olion sawl fresco ar y muriau, mewn paent coch yn bennaf; colled mawr oedd eu difetha'n llwyr er mwyn cwblhau'r gwaith ar yr eglwys. Ceir bedyddfaen wrth y porth sy'n dyddio i'r 12fed neu'r 13g. Diddorol hefyd yw'r ddwy garreg ceirfiedig a fu'n rhan o eirch carreg ac sydd i'w dyddio i'r 13g yn ôl pob tebyg. Ceir arnynt batrymau Celtaidd blodeuog o waith hynod o gain.
Y tu allan i'r eglwys, a amgylchynir gan hen fynwent, a thua 100m dros y caeau i gyfeiriad Llandudno, ceir Ffynnon Tudno.
Defnyddir yr eglwys yn achlysurol o hyd, yn bennaf ar Suliau yn yr haf. Gellir ei chyrraedd o Landudno trwy ddilyn arwyddion amlwg ar y ffordd i Ben y Gogarth neu o'r Marine Drive. Mae'r eglwys ar agor i ymwelwyr yn ystod y dydd fel rheol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Harold Hughes a Herbert Luck North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984)