Henry Harold Hughes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth H. Harold Hughes)
Jump to navigation Jump to search
Henry Harold Hughes
Ganwyd 1864 Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Ionawr 1940 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth archeolegydd, pensaer, hanesydd Edit this on Wikidata

Pensaer ac archaeolegydd Cymreig o ogledd Cymru oedd Henry Harold Hughes (18647 Ionawr 1940), a gyhoeddai wrth yr enw (H.) Harold Hughes.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Harold Hughes yn 1864 yn fab i ficer. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lerpwl ac aeth i Lundain lle daeth yn bensaer. Sefydlodd bractis ym Mangor yn 1891 ac yn 1901 fe'i apwyntiwyd yn Bensaer ac Arolygydd Tir Esgobaethol Esgobaeth Bangor.

Daeth Hughes yn gyfaill mawr i bensaer lleol arall, Herbert L. North. Roedd gan y ddau ddidordeb mawr ym mhensaernïaeth hen eglwysi a bythynod traddodiadol Eryri a'r cylch. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol The Old Cottages of Snowdonia (1908) a The Old Churches of Snowdonia (1924).

Roedd yn archaeolegydd amatur - fel bron pob archaeolegydd lleol y pryd hynny - a gyfrannodd nifer o erthyglau ar eglwysi, cestyll a safleoedd archaeolegol gogledd Cymru i'r cylchgrawn Archaeologia Cambrensis, yn cynnwys astidiaethau manwl o fryngaerau Pen-y-gaer ac arolwg o safle Braich-y-Dinas (rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan). Am sawl blwyddyn ef oedd golygydd y cylchgrawn hwnnw.

Fel pensaer gweithiodd ar adfer a diogelu sawl eglwys yng ngogledd-orllewin Cymru, e.e. Clynnog, Llanrhychwyn, Eglwys y Drindod Llandudno, Llangelynnin ac eglwys Tywyn (Meirionnydd).

Bu farw Harold Hughes yn 1940 a'i claddu ym mynwent Ynys Dysilio, ynys fechan yn Afon Menai, ger Porthaethwy, o fewn golwg y Groes Geltaidd a gynlluniodd yno fel cofeb ryfel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Adargraffiad 1984 o The Old Churches of Snowdonia, nodyn ar yr awduron.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda H. L. North:

  • The Old Cottages of Snowdonia (Bangor, 1908)
  • The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924). Adargraffwyd gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984.