Cefn Berain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caeau ger Cefn Berain

Pentref bychan iawn neu amlwd gwledig yn y bryniau ar ochr orllewinol Dyffryn Clwyd yw Cefn Berain (cyfeiriad grid SH997692). Mae'n gorwedd yn y bryniau isel tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ger Llanefydd. Mae'n perthyn i fwrdeistref sirol Conwy heddiw ond bu'n rhan o sir Clwyd a'r hen Sir Ddinbych cyn hynny. Mae'n rhan o blwyf Llanefydd.

Mae'n adnabyddus yn bennaf fel cartref y foneddiges Catrin o Ferain (1543/5 - 1591), a lysenwyd yn "Fam Cymru" oherwydd ei chysylltiadau teuluol niferus yn y rhan hon o'r wlad. Gorwedd plasdy Berain ei hun tua thri chwarter milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref bach.

Ganwyd y bardd ac anterliwtwr enwog Twm o'r Nant yn fferm Pen-porchell Isaf, hanner milltir i'r de o'r pentref.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]