Morris Williams (Nicander)
Morris Williams | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Nicander ![]() |
Ganwyd | 20 Awst 1809 ![]() |
Bu farw | 3 Ionawr 1874 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, clerig ![]() |
- Erthygl am y bardd Cymraeg Nicander yw hon. Am enghreifftiau eraill o'r enw personol Nicander, gweler Nicander (gwahaniaethu). Am bobl eraill o'r enw Morris Williams, gweler Morris Williams (gwahaniaethu).
Bardd, emynydd a chyfieithydd oedd Morris Williams, a adnabyddir yn well dan ei enw barddol Nicander (20 Awst 1809 – 3 Ionawr 1874). Cafodd ei eni a'i fagu yn Nghoed Cae Bach, ym mhlwyf Llangybi, Eifionydd, yn yr hen Sir Gaernarfon.
Plentyndod ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysg gynnar yn Llanystumdwy ac ar ôl gorffen yn yr ysgol aeth yn brentis i saer coed lleol.
Tynnodd ei ddawn farddonol sylw'r beirdd Dewi Wyn o Eifion ac Ieuan Glan Geirionydd. Diolch i'w caredigrwydd cafodd orffen ei addysg yn Ysgol y Brenin, yng Nghaer. Oddi yno aeth i Coleg Yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd a BA yn 1835 ac MA yn 1838. Aeth yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru y flwyddyn ganlynol a gwasanaethodd ynddi am weddill ei oes, yn Nhreffynnon a Bangor i ddechrau ac wedyn yn rheithor Llanrhyddlad, Môn yn 1858, lle bu farw yn 1874.
Y llenor
[golygu | golygu cod]Cofir Nicander yn bennaf am ei gymwynas wrth gyfieithu - neu'n hytrach addasu - nifer o moeschwedlau La Fontaine o'r Ffrangeg i'r Gymraeg. Cawsant eu cyhoeddi yn gyntaf o dro i dro yn Y Traethodydd a'r Cymro; yna cyhoeddwyd hwy yn eu ffurf ddiwygiedig a therfynnol yn Yr Haul o'r flwyddyn 1868 hyd 1874. Cyhoeddodd W. Glynn Williams, mab Nicander, destun diwygiedig yn 1901, dan y teitl camarweiniol braidd Damhegion Esop ar Gân.
Enillodd Nicander y Gadair yn Eisteddfod Aberffraw yn 1849 am ei awdl Y Greadigaeth (bu helynt am fod un o'r beirniaid, Eben Fardd, eisiau rhoi'r wobr i awdl arall gan William Ambrose (Emrys)).
Mae ei waith crefyddol yn cynnwys addasiad mydryddol newydd o'r Salmau (1850). Derbyniodd y gyfrol hon glod gan Thomas Parry, a ddywedodd ei bod yn un o gynhyrchion mwyaf llwyddiannus y 19 ganrif. Ysgrifennodd nifer fawr o emynau ond yn llyfrau emynau yr Eglwys yng Nghymru y cawsant eu cyhoeddi yn bennaf. 'Emynydd enwad' ydoedd yn ôl Bedwyr Lewis Jones.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Flwyddyn Eglwysig (1843)
- Llyfr yr Homiliau (1847)
- Y Psallwyr (1850)
- Damhegion Esop ar Gân (Jarvis a Foster, Bangor, 1901). Golygiad ei fab o'i addasiad o chwedlau La Fontaine (sydd yn eu tro wedi'u haddasu o waith Esop).
- Chwedlau Esop ar Gân (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1959). Detholiad yn y gyfres "Clasuron y Plant", gyda darluniau gan Euros Edwards.
- Bedwyr Lewis Jones, 'Nicander yr Emynydd', Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, Cyfrol 1 rhif 7, Gorffennaf 1974, 20-25
- Thomas Parry, 'Emynwyr Eifionydd', Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, Cyfrol 1 rhif 9, 245-257