Esop
| Esop | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 620 CC Mesembria, Samos |
| Bu farw | c. 564 CC Delffi |
| Galwedigaeth | chwedleuwr, mythograffydd, athronydd, ysgrifennwr |
| Blodeuodd | 6 g CC |
| Adnabyddus am | Chwedlau Esop |

Chwedleuwr a damhegwr sy'n enwog am ei ffablau oedd Esop[1] (Hen Roeg: Αἴσωπος, Aisōpos), sydd yn debyg iawn o fod yn gymeriad chwedlonol ei hun. Ers yr Henfyd cesglid nifer o straeon mewn sawl iaith a briodolir i'r hen Esop, gan ei ddyrchafu'n brif storïwr y traddodiad llafar Ewropeaidd. Noder chwedlau Esop gan ddynweddiant y cymeriadau: anifeiliaid ydynt gan amlaf sy'n gallu siarad, creu helynt a datrys problemau, a chloi'r ffabl gyda moeswers i'r gwrandäwr.
Er nad oes sicrwydd o gwbl ynghylch yr Esop hanesyddol, cofnodir bywgraffiad tradodiadol gan nifer o lenorion sy'n tarddu o'r gwaith hynafol Rhamant Esop. Sonir amdano gan Aristotlys, Herodotus, a Plutarch. Honnir taw caethwas hyll ond deallus oedd Esop, a enillodd ei ryddid a daeth yn gynghorwr i deyrnoedd a dinas-wladwriaethau, megis Cresws, Brenin Lydia. Credir iddo fyw yn y 6ed ganrif CC, ac awgrymir nifer o fannau geni iddo: Thracia, Phrygia, ynys Samos, neu Ethiopia. Honnir iddo farw yn Delffi yn y flwyddyn 564 CC, o bosib wedi ei daflu o glogwyn yn gosb am halogi'r deml neu ryw drosedd debyg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Aesop].