Delphi
Mae Delphi (Groeg: Δελφοί), yn safle archaeolegol yng Ngwlad Groeg ac hefyd yn enw ar y dref fodern gerllaw. Mae ar lechweddau isaf Mynydd Parnassus yn Phocis.
Roedd Delphi yn safle o bwysigrwydd mawr yng Ngroeg yr Henfyd oherwydd presenoldeb Oracl Delphi. Mae'r safle yn dyddio i'r cyfnod cyn-hanesyddol, pan addolid Gaia yma; yn ddiweddarch roedd yn gysegredig i'r duw Apollo.
Delphi oedd safle yr omphalos (ομφαλός) carreg oedd yn dynodi canolbwynt y byd. Roedd yr omphalos yn nheml Apollo o Delffi (Ἀπόλλων Δελφίνιος).
Saif y dref fodern i'r gorllewin o'r safle archaeolegol. Roedd y boblogaeth yn 3,511 yn 2001.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]
Hen dref[golygu | golygu cod]
- Gymnasium
- Hippodrôm
- Teml Apollo
- Theatr
- Tholos
- Trysorfa Athen
Dref fodern[golygu | golygu cod]
- Amgueddfa Delphi
Enwogion[golygu | golygu cod]
- Hegesander (m. c. 250CC), hanesydd