Phrygia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o ardal Phrygia.
Arysgrif Phrygeg ar Fedrodd Midas yn olion Dinas Midas.

Teyrnas hynafol yng ngorllewin canolbarth Anatolia oedd Phrygia a ddominyddodd Asia Leiaf yn y cyfnod rhwng cwymp yr Hethiaid a goruchafiaeth Lydia (tua 1200–700 CC).

Ymsefydlodd y Phrygiaid yng ngogledd-orllewin Anatolia yn yr ail fileniwm CC. Daethant o'r Balcanau, ac mae'n bosib yr oeddynt yn hanu o'r Thraciaid. Yn sgil cwymp teyrnas Heth, ymfudodd y Phrygiaid i ucheldiroedd y canolbarth gan sefydlu'r brifddinas Gordium a'r ganolfan grefyddol yn Ninas Midas. Rhwng y 12fed a'r 9g CC, Phrygia oedd ardal orllewinol conffederasiwn y "Mushki", yn ôl croniclau'r Asyriaid. Llwyddodd y gwareiddiad hwn i reoli holl Anatolia drwy fabwysiadau arferion yr Hethiaid cynt ac adeiladu ffyrdd ar draws yr orynys. Tua'r flwyddyn 730 CC, rhannwyd dwyrain y conffederasiwn gan Asyria ac Urartu a symudodd canolfan grym i ardal Phrygia ei hun dan deyrnasiad y Brenin Midas. Cwympodd teyrnas Midas yn sgil goresgyniadau'r Cimeriaid yn y cyfnod 695–585 CC. Daeth gorllewin Anatolia dan dra-arglwyddiaeth y Lydiaid, a pharhaodd Phrygia yn enw daearyddol yn unig. Yn hwyrach daeth yr ardal dan reolaeth Persia, y teyrnasoedd Helenistiaid, y Rhufeiniaid, a'r Bysantiaid. Cymhathodd y Phrygiaid yn llwyr erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol, a diflanodd yr enw Phrygia wedi concwest y Tyrciaid.

Ychydig a wyddom am gymdeithas y Phrygiaid. Cwlt y famdduwies Cybele oedd y grefydd fwyaf. Mae'n debyg taw ffurf ar ffiwdaliaeth oedd trefn y gymdeithas, gydag phendefigaeth o farchogion llythrennog yn rheoli'r bobloedd frodorol o'u canolfannau yn Gordium a Dinas Midas. Rheolid rhai o'r tiroedd gan archoffeiriaid y cysegrfeydd mawr megis Pessinus. Yn y canol oedd y crefftwyr a'r masnachwyr, a rhai ohonynt siŵr o fod yn dramorwyr: Groegiaid, Ffeniciaid, Syriaid, ac Urataeaid. Ffermio defaid oedd un o'r prif ddiwydiannau, a roedd gwlân Phrygia yn werthfawr gan fasnachwyr Groegaidd ym Miletus a Pergamum. Roedd y Phrygiaid yn weithwyr metel ac yn gerfwyr pren o fri, ac hefyd yn y brodwyr cyntaf ac yn enwog am eu carpedi. Roeddynt yn siarad Phrygeg, iaith Indo-Ewropeaidd sydd o bosib yn perthyn yn agos i'r Roeg.

Goroesoedd enwau'r brenhinoedd Phrygiaidd mewn straeon arwrol y Groegiaid: Gordias a'r Cwlwm Gordiaidd, y Midas chwedlonol a drodd popeth yn aur, a Mygdon gelyn yr Amasoniaid. Sonir amdanynt yn gynghreiriaid y Caerdroeaid yn yr Iliad.