Neidio i'r cynnwys

Amason (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Amasoniaid)
Amason
Amason yn paratoi ar gyfer brwydr (Pierre-Eugène-Emile Hébert, 1872)
Enghraifft o:grŵp o gymeriadau chwedlonol Groeg, grwp ethnig chwedlonol, fictional tribe Edit this on Wikidata
Mathcymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0s9q edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1486 edit this on wikidata
QuoraAmazons edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym mytholeg Roeg, roedd yr Amasoniaid (Hen Roeg: Ἀμαζόνες yn llwyth o ferched rhyfelgar. Fe'i lleolid yn ardal Caerdroea neu yn Thrace; yn y 6ed ganrif CC credid eu bod yn byw yn Sgythia, ac yn y 5 CC yn Themiscyra gerllaw Thermodon. Yn y cyfnod Helenistaidd, lleolid hwy yn y dwyrain pell neu'r gorllewin pell.

Maent yn ymddangos mewn nifer o chwedlau ym mytholeg Roed. Er enghraifft, adroddir am ei brenhines, Penthesileia, yn cynorthwyo Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac yn cael ei lladd mewn brwydr yn erbyn Achiles.

Enwyd afon Amazonas ar eu hôl ar sail hanesion Francisco de Orellana am ferched rhyfelgar ar hyd yr afon yma.