Afon Amazonas
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Amazon ![]() |
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
Periw, Colombia, Brasil ![]() |
Cyfesurynnau |
4.4403°S 73.4472°W, 0.5933°S 49.9563°W ![]() |
Tarddiad |
Quebrada Apacheta ![]() |
Aber |
Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Llednentydd |
Afon Madeira, Tapajós River, Afon Xingu, Rio Negro, Afon Jurua, Afon Japurá, Afon Napo, Afon Putumayo, Afon Preto da Eva, Afon Nanay, Afon Javary, Afon Paru, Trombetas River, Afon Jari, Solimões, Afon Jutai, Afon Urubu, Afon Jandiatuba, Afon Manacapuru, Afon Uatumã, Afon Nhamundá, Afon Arabela, Itaya, Afon Guajará, Afon Ucayali, Paraná Urariá ![]() |
Dalgylch |
7,050,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
6,400 cilometr ![]() |
Arllwysiad |
209,000 metr ciwbic yr eiliad, 168,700 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Mae Afon Amazonas yn afon yn rhan ogleddol De America. Amazonas yw'r afon fwyaf yn y byd; mae rhywfaint o ddadlau ai'r Amazonas ynteu Afon Nîl yw'r hwyaf yn y byd, ond yn sicr mae yr Amazonas yn cario llawer mwy o ddŵr nag unrhyw afon arall. Mae'r Amazonas yn cario mwy o ddŵr na'r Mississippi, Afon Nîl ac Afon Yangtze gyda'i gilydd. Mae'r afon o leiaf 6,400 km o hyd, ac yn yr aber mae tua 60 km o led.
Cyn concwest De America gan Ewroppeaid, mae'n ymddangos nad oedd un enw ar yr afon, gyda darnau gwahanol ohoni yn dwyn enwau fel Paranaguazú, Guyerma a Solimoes. Yn 1500, y Sbaenwr Vicente Yañez Pinzón oedd arweinydd y fintai gyntaf o Ewropeaid i ddarganfod yr afon. Rhoddwyd yr enw Amazonas i'r afon gan Francisco de Orellana, wedi iddo ddarganfod llwyth lle roedd y merched yn ymladd ochr yn ochr a'r dynion, megis yr Amazoniaid ym mytholeg Roeg. Orellana oedd yr Ewropead cyntaf i ddilyn yr afon yr holl ffordd o'r Andes i'r môr.
Mae tarddiad yr afon yn y Quebrada de Apacheta, yn yr Andes yn ardal Arequipa, Periw. Mae croes bren yn nodi'r tarddle. Wedi gadael yr Andes mae'r afon yn ffurfio rhan o'r ffin rhwng Periw a Colombia yna'n llifo trwy Brasil.

Prif afonydd y dalgylch[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae mwy na 1,000 o afonydd yn rhedeg i mewn i'r Amazonas. Y prif rai yw:
Agweddau dynol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r Amazonas yn eithriadol o bwysig ar gyfer trafnidiaeth, a gall llongau pur fawr gyrraedd ymhell i fyny'r afon. O gwmpas glannau'r afon y mae'r mwyafrif mawr o boblogaeth ei dalgylch yn byw. Y prif borthladdoedd ar yr afon yw Iquitos (Periw), Leticia (Colombia) a Manaos (Brasil). Gellir ystyried Belem do Pará (Brasil) yn borthladd ar yr afon hefyd, er ei bod mewn gwirionedd ar Afon Tocantins ychydig cyn i honno uno a'r Amazonas.