Afon Yangtze
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Qinghai, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, Yunnan, Sichuan, Chongqing, Hubei, Hunan, Jiangxi, Anhui, Jiangsu, Shanghai ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
33.4442°N 90.9361°E, 31.3936°N 121.9831°E ![]() |
Tarddiad |
Tibetan Plateau ![]() |
Aber |
Môr Dwyrain Tsieina ![]() |
Llednentydd |
Afon Yalong, Afon Min, Afon Tuo, Afon Jialing, Afon Han, Afon Wu, Afon Yuan, Afon Zi, Afon Xiang, Afon Gan, Afon Huangpu, Afon Huai, Afon Qinhuai, Afon Chishui, Chumar River, Jinsha Jiang, Afon Qingyi, Afon Shuiyang, Afon Fushui, Afon Qing, De Qu, Q11131507, Q11570154, Sewu Qu, Q15928024, She Shui, Afon Ruxi, Yili He, Afon Heng, Xixi River, Afon Meigu, Ouqu, Afon Maisu, Afon Zengqu, Sequ River ![]() |
Dalgylch |
1,808,500 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
6,300 cilometr ![]() |
Arllwysiad |
31,900 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd |
Llyn Dongting ![]() |
![]() | |
Yr afon hiraf yn Asia, a'r drydedd hiraf yn y byd (ar ôl Afon Nîl ac Afon Amazonas) yw Afon Yangtze neu Chang Jiang (長江 neu 长江), Drichu yn Tibeteg (འབྲི་ཆུ་). Mae hi oddeutu 6,380 km o'i tharddiad yn rhanbarth Qinghai, i'r mor ger Shanghai.
Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]
Deillia'r enw 'Yangtze', (a ffurfiau tebyg megis 'Yangtse', 'Yangzi', 'Yangtze Jiang' etc.), o'r enw Tsieineeg Yangzi Jiang (扬子江/揚子江 Yángzǐ Jiāng ), enw ar rannau isaf yr afon (rhwng Yángzhōu 揚州 a Zhènjiāng 鎮江) o'r cyfnod Sui ymlaen. O'r cyfnod Ming ymlaen, ysgrifenwyd yr enw weithiau ar y ffurf "yángzĭ 洋子." Dyma'r enw a glywyd gyntaf gan genhadon a masnachwyr, a felly defnyddir yr enw yn Saesneg am yr afon gyfan. Yn y Tsieineeg, ystyrir yr enw Yangzi Jiang yn un hanesyddol neu farddonol yn bennaf. Chang Jiang (长江/長江
Cháng Jiāng ), sy'n golygu "afon hir", yw'r enw Tsieineeg cyfoes.
Gan ei bod yn afon mor hir, mae yna sawl enw brodorol ar wahanol rannau o'r afon. Wrth ei tharddiad, Dangqu (当曲/當曲, o'r Tibeteg am "afon waen") yw'r enw Tsieineeg arni. Yn is i lawr, daw'r enwau afon Tuotuo(沱沱河) ac afon Tongtian (通天河, yn llythrennol "afon fwlch i'r nefoedd"). Wrth iddi lifo trwy geunentydd dwfn yn gyfochrog ag Afon Mekong ac Afon Salween cyn ymddangos ar wastad-dirroedd Sichuan, fe'i hadwaenir fel yr afon Jinsha (金沙江 Jīnshā Jiāng, "afon dywod aur").
Yn amseroedd a fu, defnyddid yr enw Jiang (江 Jiāng) arni, ond mae hynny'n enw sy'n golygu "afon" erbyn hyn. Drichu (འབྲི་ཆུ་ / 'bri chu, "afon yr yak fenywaidd").
