Gwynt y Môr
Math | fferm wynt morol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.45°N 3.58°W |
Perchnogaeth | Innogy, Stadtwerke München, UK Green Investment Bank, Siemens |
Fferm wynt alltraeth wedi'i lleoli oddi ar arfordir Prestatyn, gogledd-ddwyrain Cymru yw Gwynt y Môr. Mae'n cynhyrchu 576 MW o ynni a hi yw'r bumed fwyaf yn y byd.[1]
Cwmni ynni NPower Renewables sydd y tu ôl i'r cynllun ac mae'n cynhyrchu 576MW gyda 160 melin wynt neu 'dyrbein', sef digon o drydan i gyflenwi 400,000 o dai: 35% o holl dai Cymru. Roedd cyfanswm y gost o'u hadeiladu oddeutu £90 miliwn, gydag 1.2 o hynny'n mynd i Siemens am gysylltiadau ac offer trydanol.[2] Cwmniau o Gymru oedd y gweddill.
Cawsant ganiatâd i ddechrau ar y gwaith gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd llywodraeth San Steffan ar yr ail o Ragfyr 2008. Mae'n golygu codi 250 o dyrbinau anferth o fewn 8 milltir i'r arfordir; os gweithredir y cynllun yna hon fydd yr ail fferm wynt fwyaf yn y byd.[3]
Bydd y trydan yn dod i'r lan rhwng y Rhyl a Llanddulas a'r ganolfan trwsio a chadw ym Mhorth Mostyn.
Wrth agor y gwaith ym Mehefin 2015 dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, “Mae agor Gwynt y Môr yn gymaint o gyrhaeddiad a bydd yn parhau i sicrhau nifer o fanteision i ranbarth y Gogledd. Yn ystod y cyfnod adeiladu, roedd cwmnïau lleol ymysg y rhai a wnaeth elwa a bydd y safle yn rhoi gwaith o ansawdd da a chyfleoedd am flynyddoedd maith... Fel Llywodraeth rydym eisiau symud at ddyfodol carbon isel ac mae’r Gogledd yn benodol mewn lle da i fanteisio ar hynny.”
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd y cais cynllunio cyntaf yn 2005. Cafodd y cynllun gwreiddiol ei newid rhywfaint ar 7 Awst 2007 a'i gymeradwyo gan Adran Ynni y DU yn Rhagfyr 2008. Dechreuodd y gwaith yn 2010.[4] Mae'r fferm wynt yn gorwedd ar ran o wely'r môr sydd ym meddiant Ystad y Goron, a roddodd y brydles i'r cwmni gael defnyddio'r tir.[5]
Manylion technegol
[golygu | golygu cod]Defnyddir tyrbinau o fewn yr amrediad 3MW i 5MW gyda'r llafnau'n 165m o uchder (uchafswm), uchder mwyaf yr hwb a diametr y rotor fydd rhwng 98m a 134m. Amcangyfrifir bod y pellter rhwng y tyrbinau o gwmpas 450m i 1000m, gyda lleiafswm y bwlch sydd rhyngddynt o leiaf 350m i ganiatáu micro-leoli rhwng y tyrbinau gwynt.
Gwrthwynebiad
[golygu | golygu cod]Mae'r cynllun yn un dadleuol iawn, yn enwedig yn lleol. Mae'n cael ei wrthwynebu yn ei ffurf bresennol, neu yn gyfangwbl, gan Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Conwy, cynghorau tref Bae Colwyn a Llandudno a nifer o ymgyrchwyr. Mae'r penderfyniad gan Adran Ynni llywodraeth y DU i wrthod yr alwad am ymchwiliad cyhoeddus gan y cyrff hyn a gwrthwynebwyr eraill wedi codi gwrychyn nifer o bobl, yn cynnwys yr Aelod Cynulliad lleol, Gareth Jones, sydd wedi galw y penderfyniad yn "annemocrataidd" am ei fod yn groes i ddymuniad Llywodraeth Cymru a phobl leol.[3] Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan na ddylai San Steffan wneud penderfyniad dadleuol fel hyn yn groes i ewyllys y Cynulliad ac yn galw am ddatganoli hyn a materion tebyg i Gymru (fel sy'n bod yn yr Alban yn barod).
Trefi Llandudno a Bae Colwyn sydd ymhlith y rhai fydd yn cael eu heffeithio'n fwyaf gan y fferm wynt, sy'n weladwy o Landudno yn y gorllewin hyd ardal Y Rhyl i'r dwyrain. Mae twristiaeth yn elfen bwysig iawn yn yr economi lleol ac ofnir y bydd yn dioddef. Mae eraill yn gwrthwynebu ar seiliau amgylcheddol neu yn syml am fod y cynllun yn mynd i ddifetha'r olygfa allan i'r môr.
Yn wreiddiol, honodd y gwrthwynebwyr bod y ffigwr o "ddigon o ynni ar gyfer 680,000 o dai" yn gamarweiniol iawn hefyd, gan ei fod yn dibynnu ar amgylchiadau delfrydol sy ddim yn debyg o ddigwydd yn aml. Dadleir hefyd fod y cyflenwad pŵer o ynni gwynt yn ansefydlog ac felly bydd rhaid wrth gyflenwad cyfatebol gan bwerdai confensiynol o hyd, rhag ofn.
Ffermydd gwynt gerllaw
[golygu | golygu cod]Ceir dwy fferm gerllaw: Fferm wynt North Hoyle, sy'n cynhyrchu 60MW o drydan a Fferm wynt gwastadeddau'r Rhyl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2016. Cyrchwyd 18 Chwefror 2016.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ 3.0 3.1 BBC Cymru: "Golau gwyrdd i gynllun fferm wynt", 3 Rhagfyr 2008
- ↑ BBC Cymru: "Newid cynllun gwynt", 7 Awst 2007
- ↑ "thecrownestate.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2008-12-16.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Manylion Cymraeg gan npower.[dolen farw]
- (Saesneg) Manylion y cynllun ar safle NPower Renewables Archifwyd 2008-12-06 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Save Our Scenery Grwp sy'n gwrthwynebu'r fferm wynt