Fferm wynt
| Math | gorsaf bŵer |
|---|---|
| Yn cynnwys | tyrbin gwynt |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03j5zb |


Grŵp o dyrbinau gwynt yn yr un lleoliad a ddefnyddir er mwyn cynhyrchu trydan ydy fferm wynt. Gall fferm wynt fawr gynnwys cannoedd o dyrbinau gwynt unigol, gan orchuddio arwynebedd o gannoedd o filltiroedd sgwâr, ond gellir defnyddio'r tir rhwng y tyrbinau at ddibenion eraill megis amaethyddiaeth. Gellir lleoli fferm wynt yn y môr hefyd.
Ers Chwefror 2012, Fferm Wynt Fântânele-Cogealac yn Rwmania yw'r fferm wynt tirol fwyaf yn y byd, gan gynhyrchu 600 MW. Lleolir nifer o'r ffermydd gwynt mwyaf yn Unol Daleithiau America ac yn Tsieina. Mae gan Fferm Wynt Gansu yn Tsieina dros 5,000 MW yno gyda nod o 20,000 MW erbyn 2020. Mae gan Tsieina nifer o "ganolfannau pŵer gwynt" eraill o faint tebyg. Ers Chwefror 2012, Fferm Wynt Walney yng ngogledd Môr Iwerddon ger Cumbria yw'r fferm wynt forol fwyaf yn y byd, gyda 659 MW (ers 2018).
