Qinghai
| Math | talaith Tsieina |
|---|---|
| Prifddinas | Xining |
| Poblogaeth | 5,930,000, 5,923,957 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Liu Ning, Wu Xiaojun |
| Cylchfa amser | UTC+08:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 696,700 km² |
| Yn ffinio gyda | Xinjiang, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, Gansu, Sichuan |
| Cyfesurynnau | 35°N 96°E |
| CN-QH | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Q106088413 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Liu Ning, Wu Xiaojun |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | 300,590 million ¥ |
Talaith yn rhan orllewinol Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Qinghai (Tsieinëeg: 青海省; pinyin: Qīnghǎi Shěng). Daw'r enw o ene Llyn Qinghai. Mae'r dalaith yn ffinio ar Ranbarthau Ymreolaethol Sinkiang, (Xinjiang) a Tibet a thalaeithiau Gansu a Sichuan. Gyda phoblogaeth o 5.3 miliwn, mae'n un o daleithiau lleiaf poblog Tsieina. Y brifddinas yw Xining.
Hen enw y dalaith oedd Amdo, ac roedd yn rhan o Tibet hanesyddol. Crewyd talaith Qinghai yn 1950, wedi i Tsieina feddiannu Tibet. Cyn hynny, roedd rhan o'r hyn sy'n awr yn rhan ogledd-ddwyreiniol y dalaith yn rhan o dalaith Gansu. Ffurfia'r Tibetiaid 23% o'r boblogaeth, gyda Tsineaid Han yn y mwyafrif gyda 54%. Grwpiau ethnig eraill yw'r Hui (16%), Mongoliaid, Tu a'r Salar.
Yn ddaearyddol, mae'r rhan fwyaf o Qinghai yn rhan o Ucheldir Tibet, gyda rhan o Anialwch Gobi yn y gogledd-orllewin. Ceir y mynyddoedd uchaf yng nghadwyni y Kunlun, Tanggula a'r Nan Shan. Mae nifer o afonydd pwysicaf Asia yn tarddu yma, yn cynnwys y Huang He, yr Yangtze ac afon Mekong.

| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |

