Gobi
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Anialwch Gobi)
| Math | anialwch |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia |
| Arwynebedd | 2,354,460 km² |
| Uwch y môr | 1,547 metr |
| Cyfesurynnau | 42.5°N 103°E |
| Hyd | 1,500 cilometr |
![]() | |
Anialwch yng Nghanolbarth Asia yw'r Gobi. Mae ganddo arwynebedd o tua 1,295,000 km² (500,000m²).
Mae'r Gobi'n ymestyn trwy rannau sylweddol o dde-ddwyrain Mongolia a gogledd Tsieina. Wedi'i lleoli ar lwyfandir 900-1500m uwchben lefel y môr, mae'n anialwch creigiog yn bennaf, gyda sawl ardal o gorsdir hallt a ffrydiau bychain sy'n diflannu i'r tywod ar ôl rhedeg cwrs byr.
Mae rhannau o'r Gobi'n gyfoethog mewn safleoedd archaeolegol a gweddillion cynhanesyddol fel ffosilau ac offer carreg.

