Tsieineaid Han

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tsineaid Han)
Tsieineaid Han
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathChinese people Edit this on Wikidata
MamiaithTsieineeg edit this on wikidata
CrefyddBwdhaeth, taoaeth, cristnogaeth, islam, conffiwsiaeth, parch i'r meirw, crefydd gwerin tsieina edit this on wikidata
Rhan oSino-Tibetan peoples Edit this on Wikidata
RhagflaenyddHuaxia (ethnicity) Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig sy'n frodorion o Tsieina yw'r Tsieineaid Han. Ystyrir mai hwy yw grŵp ethnig mwyaf niferus y byd, gyda bron 20% o holl boblogaeth y byd yn perthyn i'r grŵp yma. Cyfeirir arynt yn aml yn syml fel Tsieineaid, ond ystyrir hyn yn anghywir.

Golygfa ar y stryd yn hen ddinas Shanghai.

Mae Tsieineaid Han yn ffutfio bron 92% o boblogaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina, 98% o boblogaeth Taiwan (Gweriniaeth Tsieina) a 75% o boblogaeth Singapôr. Ceir hefyd niferoedd sylweddol mewn rhannau eraill o'r byd, megis De-ddwyrain Asia, Ewrop a'r Unol Daleithiau. Daw'r enw o enw Brenhinllin Han.

Yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, mae'r Tsieineaid Han yn y mwyafrif ymhob talaith a rhanbarth ymreolaethol heblaw Xinjiang (41% yn 2000) a Tibet (6% yn 2000).

Grwpiau ethnig Gweriniaeth Pobl Tsieina a Taiwan. Tsineaid Han mewn brown.