Tsieineaid Han
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Chinese people |
Mamiaith | Tsieineeg |
Crefydd | Bwdhaeth, taoaeth, cristnogaeth, islam, conffiwsiaeth, parch i'r meirw, crefydd gwerin tsieina |
Rhan o | Sino-Tibetan peoples |
Rhagflaenydd | Huaxia (ethnicity) |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig sy'n frodorion o Tsieina yw'r Tsieineaid Han. Ystyrir mai hwy yw grŵp ethnig mwyaf niferus y byd, gyda bron 20% o holl boblogaeth y byd yn perthyn i'r grŵp yma. Cyfeirir arynt yn aml yn syml fel Tsieineaid, ond ystyrir hyn yn anghywir.
Mae Tsieineaid Han yn ffutfio bron 92% o boblogaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina, 98% o boblogaeth Taiwan (Gweriniaeth Tsieina) a 75% o boblogaeth Singapôr. Ceir hefyd niferoedd sylweddol mewn rhannau eraill o'r byd, megis De-ddwyrain Asia, Ewrop a'r Unol Daleithiau. Daw'r enw o enw Brenhinllin Han.
Yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, mae'r Tsieineaid Han yn y mwyafrif ymhob talaith a rhanbarth ymreolaethol heblaw Xinjiang (41% yn 2000) a Tibet (6% yn 2000).