Brenhinllin Zhou
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Brenhinllin Zhou (Tsieineeg: 周朝, pinyin: zhouchao), oedd y drydedd frenhinllin yn hanes Tsieina. Mae'n dyddio o tua 1122 CC hyd 256 CC, yn dilyn Brenhinllin Shang, ac roedd ei thiriogaeth yn ymestyn ar hyd dyffryn yr Afon Felen. Sefydlwyd Brenhinllin Zhou gan y teulu Ji, ac roedd y brifddinas yn Hao (gerllaw Xi'an heddiw).
Yn 770 CC, dinistriwyd y brifddinas gan lwythau barbaraidd o'r gorllewin, a symudodd y brenin Ping y brifddinas tua'r dwyrain i Luoyi (Luoyang heddiw). Ystyrir hyn fel diwedd cyfnod y Zhou gorllewinol, a dechrau'r Zhou Dwyreiniol.
Olynwyd y Zhou gan Frenhinllin Qin.
Cyfnodau hanes Tsieina | |
---|---|
Hanes Tsieina | Brenhinllin Shang • Brenhinllin Zhou • Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar • Brenhinllin Qin • Brenhinllin Han • Brenhinllin y Tang • Brenhinllin Yuan • Brenhinllin Ming • Brenhinllin Qing |