Brenhinllin Qin
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwladwriaeth hanesyddol Tsieina, cyfnod o hanes |
---|---|
Daeth i ben | c. 206 CC |
Rhan o | Qin Han, Early Imperial China |
Dechrau/Sefydlu | c. 221 CC |
Rhagflaenwyd gan | Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar |
Olynwyd gan | Brenhinllin Han |
Rhagflaenydd | Qin, Chu, Wey, Brenhinllin Zhou |
Olynydd | Western Chu, Jiujiang, Yong, Sai, Zhai, Western Wei, Kingdom of Henan, Han (208BC-200BC), Yin, Changshan, Dai, Hengshan, Linjiang, Yan (Zang Tu), Liaodong, Jiaodong Kingdom, Qi (209–203 BC), Nanyue, Brenhinllin Han |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pumed brenhinllin fawr Tsieina, yn dilyn brenhinllinoedd y Xia, y Shang, Brenhinllin Zhou Gorllewinol a Brenhinllin Zhou Dwyreiniol oedd Brenhinllin Qin. Rheolodd y Qin Tseinia rhwng 221 a 207 C.C..
Dim ond dau ymerodr Qin a reolodd:
- Qin Shi Huang, "Yr Ymerodr Cyntaf", enw bedydd Ying Zheng (teyrnasodd 221-210 C.C.).
- "Yr Ail Ymerodr" (ei unig deitl swyddogol), enw bedydd Hu Hai (teyrnasodd 209-207 C.C.).
Er mai byr oedd parhâd y Qin mae eu teyrnasiad yn beysig iawn yn hanes Tsieina oherwydd nhw a sefydlodd o'r ymerodraeth o'r newydd yn sgîl y cyfnod cythryblus o anhrefn a rhyfel a elwir Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar ("The Warring States Period" yw'r ymadrodd Saesneg arferol). O gyfnod y Qin ymlaen atgyfnerthwyd Mur Mawr Tsieina yn gyson. Y Qin hefyd a greodd yr amgylchiadau angenreidiol o heddwch a sefydlogrwydd ar gyfer blodeuo iaith a diwylliant Tseinia a chychwyn cyfnod Clasurol yn ei hanes.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- K.C. Latourette, The Chinese: their history and culture (Llundain, 1964)
- William Watson, Early Civilization in China (Llundain, 1966)
Cyfnodau hanes Tsieina | |
---|---|
Hanes Tsieina | Brenhinllin Shang • Brenhinllin Zhou • Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar • Brenhinllin Qin • Brenhinllin Han • Brenhinllin Tang • Brenhinllin Yuan • Brenhinllin Ming • Brenhinllin Qing |