Brenhinllin Tang

Oddi ar Wicipedia
Brenhinllin Tang
Enghraifft o'r canlynolgwladwriaeth hanesyddol Tsieina, diwylliant, arddull, cyfnod o hanes, gwladwriaeth, Chinese dynasty Edit this on Wikidata
Daeth i ben907 Edit this on Wikidata
Label brodorol唐朝 Edit this on Wikidata
Rhan oSui Tang, Mid-Imperial China Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu618 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd618 Edit this on Wikidata
Daeth i ben907 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganSecond Turkic Khaganate Edit this on Wikidata
SylfaenyddEmperor Gaozu of Tang Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBrenhinllin Sui, Qi (Huang Chao), Zhou dynasty (690–705), Goguryeo, Gaochang Kingdom (Qu clan) Edit this on Wikidata
OlynyddLater Liang dynasty, Wu, Zhou dynasty (690–705) Edit this on Wikidata
Enw brodorol唐朝 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dilynodd Brenhinllin y Tang (唐朝) (18 Mehefin 6184 Mehefin 907) Frenhinllin y Sui a rhagflaenodd Gyfnod y Pum Brenhinllin a'r Deg Teyrnas yn Tsieina. Cafwyd bwlch yn y frenhinllin yn ystod Ail Frenhinllin y Zhou (16 Hydref, 690 – 3 Mawrth, 705) pan gipiodd Yr Ymerodres Wu Zhao yr orsedd. Sefydlasid y frenhinllin gan y teulu Li (李).

Tsieina dan Frenhinllin y Tang (melyn) a rhai o'i chyngreiriaid a'i gelynion, c. 660

Prifddinas y frenhinllin oedd Chang'an (Xi'an heddiw), dinas fwyaf y byd ar y pryd. Mae Brenhinllin y Tang yn cael ei hystyried fel un o uchafbwyntiau gwareiddiad Tsieina, yn fwy felly na Brenhinllin yr Han, efallai. Roedd ei thiriogaeth yn fwy na thiriogaeth yr Han and yn dod yn agos i hynny Brenhinllin Yuan a Brenhinllin Qing.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y frenhinllin gan yr Ymherodr Li Yuan ond byr fu ei deyrnasiad ac fe'i disodlwyd gan ei fab Li Shimin, a adnebyddir fel "Tang Taizong". Ar ôl cipio'r orsedd ceisiodd Taizong ddatrys rhai o'r problemau mewnol oedd wedi bod yn bla ar lywodraeth y wlad hyd hynny. Roedd ganddo dair adran weinyddol (省, shěng), oedd yn fod i lunio, adolygu ac yna weithredu, y polisïau newydd. Roedd yna yn ogystal chwech is-adran (部, ) i wneud y gwaith ymarferol. Yn nghyfnod y Tang hefyd gorseddwyd yr Ymerodres Wu Zetian, yr unig ddynes i reoli'r wlad yn ei rhinwedd ei hun, er bod merched eraill wedi dwyn yr awenau o bryd i'w gilydd yn hanes Tsieina.

Gorllewinwr ar gefn camel, Brenhinllin y Tang, Amgueddfa Shanghai.

Mae'r 7g a'r 8g yn cael eu hystyried fel uchafbwynt Brenhinllin y Tang. Dan yr Ymherodr Xuan Zong mwynhaodd Tsieina ei Oes Aur. Ymledodd awdurdod yr ymerodraeth mor bell â Siapan a Corea yn y dwyrain, Indo-Tsieina yn y de, i Affganistan, ardaloedd Canolbarth Asia a hyd at Môr Caspia a Môr Aral yn y gorllewin. Roedd Kashmir dan ei nawdd yn ogystal ac roedd yn rheoli mynyddoedd y Pamir. Ymhlith y gwledydd a dalai teyrnged, mewn enw o leiaf, oedd Kashmir, Nepal, Fietnam, Corea a Siapan. Cyfarchai penaethiaid nomadaidd y gorllewin tu hwnt i'r Mur Mawr Ymherodr y Tang fel "Tian Kehan" (y Khan Nefol) (天可汗).

Gelwir y cyfnod hwn weithiau yn Gyfnod yr Heddwch Tsieineiadd Pax Sinica. Dyma Oes Aur Llwybr y Sidan, a oedd yn amser llewyrchus yn hanes Sogdiana. Roedd y brifddinas, Chang'an, yn ddinas gosmopolitaidd. Roedd miloedd o estronwyr yn byw yno, yn cynnwys Tyrciaid, Persiaid, Indiaid, Siapanwyr, Coreiaid a Malaiaid.

Ond daeth tro ar fyd yn sgîl Gwrthryfel An Lushan, a ddifethodd lawer o'r cynnyrch a wnaed cyn hynny. Cafodd y frenhinllin ei gwanhau'n ddifrifol ac ni welwyd yr Oes Aur eto. Yn y diwedd cafodd y frenhinllin ei gyrru allan o Ganolbarth Asia ar ôl Brwydr Talas, ac nid adferwyd rheolaeth Tsieina yn y rhanbarth tan gyfnod yr arweinyddiaeth Fongolaidd (Brenhinllin y Yuan.

Tua diwedd y cyfnod, roedd llywodraethwyr milwrol rhanbarthol (y jiedushi) yn dechrau torri'n rhydd o'r awdurdod canolog ac yn dechrau gweithredu ar eu liwt eu hunain. Yna, yn 907, ar ôl cyfnod o dri chan mlynedd bron mewn grym, daeth y frenhinllin i ben pan ddisodlodd un o'r llywodraethwyr hynny, Zhu Wen, yr ymherodr olaf gan gychwyn y cyfnod olynol a adnebyddir fel Cyfnod y Pum Brenhinllin a'r Deg Teyrnas.

Diwylliant y Tang[golygu | golygu cod]

Print bloc pren o ran o Sŵtra'r Diemwnt, O.C. 868

Dan ysbardun cysylltiadau ag India a'r Dwyrain Canol, ffynnodd diwylliant mewn sawl maes. Parhaodd Bwdhiaeth i flodeuo (fe'i sefylwyd yn Tsieina yng nghyfnod Confucius), a throes y teulu ymherodrol ati; o ganlyniad fe'i Tsienïeigwyd yn gyfangwbl a daeth yn rhan ganolog o ddiwylliant y wlad, er gwaethaf mesurau a gymerwyd yn erbyn y mynachdai grymus yn ystod y 10g. Dyma Oes Aur Bwdhaiaeth yn Tsieina. Roedd argraffu â blociau pren yn ymledu hefyd a daeth y gair printiedig yn rhan o brofiad beunyddiol mwy a mwy o bobl.

Ystyrir cyfnod y Tang fel Oes Aur llenyddiaeth Tsieinaeg a chelfyddyd Tsieina yn ogystal. Roedd gan y llywodraeth system o ethol gweision sifil trwy arholiad a oedd yn cynnal dosbarth mawr o ysgolheigion ac ysgrifenwyr, llawer ohonynt yn ddilynwyr Confucius. Y bwriad oedd denu'r ysgolheigion gorau i mewn i'r weinyddiaeth. Roedd hynny yn ogystal yn fodd i leihau dylanwad y teuluoedd aristocrataidd grymus a'r penaethiaid rhyfel lled-annibynnol a fygythai sefydlogrwydd y wlad. Datblygodd y swyddogion dysgedig i fod yn ddosbarth nerthol a oedd yn mwynhau statws arbennig yn eu cymunedau, yn creu cysylltiadau teuluol â'i gilydd, ac yn cyfrannu o werthoedd y llys ymherodrol. Hyd at ddiwedd yr ymerodraeth byddent yn parhau i fod yn ddolen hollbwysig rhwng y werin a'r llywodraeth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Benn, Charles, China's Golden Age: Everyday Life in the Tang Dynasty (Rhydychen, 2002)
  • Schafer, Edward H., The Golden Peaches of Samarkand: A study of T’ang Exotics (Berkeley a Los Angeles, 1963; clawr papur, 1985)
  • Schafer, Edward H.,The Vermilion Bird: T’ang Images of the South (Berkeley a Los Angeles, 1967)
  • de la Vaissière, E, Sogdian Traders (Leiden, 2005)


Cyfnodau hanes Tsieina
Hanes Tsieina Brenhinllin ShangBrenhinllin ZhouCyfnod y Gwladwriaethau RhyfelgarBrenhinllin QinBrenhinllin HanBrenhinllin TangBrenhinllin YuanBrenhinllin MingBrenhinllin Qing